Newyddion

Cyngor yn cynnal gwaith ymchwil ar brofiad landlordiaid preifat

Wedi ei bostio ar Tuesday 16th August 2022

Mae Cyngor Dinas Casnewydd - gyda chefnogaeth Tyfu Tai Cymru - wedi bod yn gwneud gwaith ymchwil i brofiad landlordiaid preifat sy'n gosod eiddo yn y ddinas.

Nod yr ymchwil oedd deall y sector rhent preifat yn y ddinas yn well a nodi ymyriadau polisi posibl gan yr awdurdod lleol i gefnogi'r sector rhent preifat.

Yng nghyfrifiad 2011, roedd 8,572 o aelwydydd yn y sector rhent preifat yng Nghasnewydd, sef 14% o'r holl aelwydydd. Dangosodd data gan Rhentu Doeth Cymru yn 2020 bod 10,551 eiddo rhent preifat yng Nghasnewydd oedd yn eiddo i dros 5,000 o wahanol landlordiaid.

Datblygwyd arolwg oedd yn adlewyrchu cwestiynau oedd yn cael eu gofyn mewn astudiaeth ar wahân gan Generation Rent. Roedd hyn er mwyn cymharu canlyniadau o'r ddwy astudiaeth i roi darlun llawnach o'r sector rhent preifat yng Nghasnewydd.

Cynhaliwyd yr arolwg rhwng 19 Awst a 25 Medi 2021.

Dangosodd yr ymatebion fod 74% o'r ymatebwyr wedi bod yn landlordiaid am 5 mlynedd neu fwy, gyda dim ond 5% yn landlord am chwe mis neu lai.

Dywedodd 68% fod eu heiddo yn cael ei reoli naill ai ganddyn nhw eu hunain neu aelod o'r teulu gyda'r rhan fwyaf o ymatebwyr - 85% - yn byw yng Nghasnewydd neu Dde Cymru.

Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr hefyd yn dweud eu bod yn dibynnu ar eu hincwm rhent, gyda 59% yn dweud ei fod naill ai'n brif incwm neu'n unig incwm neu y bydden nhw'n ei chael hi'n anodd byw hebddo.

Fe ofynnon ni i landlordiaid a oedden nhw wedi cael eu heffeithio neu'n debygol o gael eu heffeithio gan ystod o newidiadau a allai effeithio ar hyfywedd ariannol eu portffolio gosod. Dywedodd hanner yr ymatebwyr eu bod eisoes wedi cael eu heffeithio gan ddiwedd y rhyddhad ar gyfraddau llog morgeisi ac roedd disgwyl i dros dri chwarter gael eu heffeithio gan gynnydd arfaethedig yn y Dreth Ar Enillion Cyfalaf.

Fe ofynnon ni hefyd am yr effaith a gafodd y pandemig ar landlordiaid preifat, gydag ychydig dros hanner yr ymatebwyr yn dweud eu bod wedi colli incwm rhent yn ystod y pandemig.

Wrth edrych i'r dyfodol, fe ofynnon ni beth oedd landlordiaid yn bwriadu ei wneud o ran eu heiddo rhent preifat.

Dywedodd 35% o landlordiaid eu bod yn anelu i roi'r gorau i osod eiddo yn llwyr ac roedd 21% arall yn anelu i leihau nifer yr eiddo maen nhw'n eu gosod.

Pan ofynnwyd pam eu bod yn bwriadu rhoi'r gorau i fod yn landlord ymatebodd y mwyafrif mai'r rheswm oedd ei fod yn ormod o waith bod yn landlord preifat ac yn rhy anodd i gadw i fyny â chyfreithiau a rheoliadau.

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn awyddus i gefnogi sector rhent preifat sy'n gweithio er budd tenantiaid a landlordiaid.

Gofynnwyd pa gymorth a chefnogaeth yr oedd ymatebwyr yn credu y dylai'r Cyngor fod yn cynnig i landlordiaid, gyda rhai o'r ymatebion yn cynnwys: rhoi'r gorau i ymyrryd, cael gwared ar adran 24 y Ddeddf Gyllid a lleihau costau trwydded Tai Amlfeddiannaeth.

Dweud eich dweud

Bydd y Cyngor yn cynhyrchu adroddiad terfynol yn manylu ar ganlyniadau'r arolwg ac yn gwneud argymhellion am yr hyn y gellir ei wneud i gefnogi'r sector rhent preifat. Er mwyn ein helpu i gynhyrchu hyn hoffem gael eich barn ar y canfyddiadau cychwynnol:

  • Demograffeg – am ba mor hir ydych chi wedi bod yn landlord? Ydych chi’n byw yng Nghasnewydd? Ydych chi'n rheoli eich eiddo?
  • Materion ariannol - pa mor bwysig yw eich incwm rhenti i'ch aelwyd? Ydych chi wedi cael eich effeithio neu'n debygol o gael eich effeithio gan unrhyw un o'r newidiadau y manylir arnynt uchod?
  • Profiad yn ystod y pandemig - beth oedd eich profiad o fod yn landlord preifat yn ystod y pandemig? Allwch chi uniaethu â phrofiadau'r landlordiaid a atebodd yr arolwg hwn?
  • Dyfodol y sector rhent preifat – ydych chi'n bwriadu parhau i fod yn landlord preifat? Beth yw'r rhesymau dros eich penderfyniad? Nid yw llawer o'r pethau a awgrymir i helpu landlordiaid yng ngrym yr awdurdod lleol. Beth mwy allai'r awdurdod lleol ei wneud i gefnogi landlordiaid preifat yng Nghasnewydd? Ydych chi'n cytuno â'r awgrymiadau a wnaed gan ymatebwyr i'r arolwg hwn?

Gallwch gyflwyno eich ymatebion i bob un neu unrhyw un o'r cwestiynau hyn uchod drwy e-bostio [email protected] erbyn 13 Medi 2022

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.