Newyddion

Diwrnod canlyniadau Safon Uwch

Wedi ei bostio ar Thursday 18th August 2022

Bydd myfyrwyr Casnewydd yn darganfod eu canlyniadau Safon Uwch a chymwysterau eraill heddiw. 

Mae'r Cynghorydd Deb Davies, aelod cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros addysg, wedi llongyfarch pawb sy'n dathlu eu llwyddiannau safon Uwch a chymwysterau eraill heddiw. 

"Da iawn i bob un ohonynt ar eu cyflawniadau gwych, mae’n adlewyrchiad o'u gwaith caled yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol neu'r coleg. 

"Ond hoffwn hefyd ddweud wrth y rhai nad ydynt efallai wedi cael y graddau neu'r cymwysterau yr oeddent wedi gobeithio eu cael nad dyma ddiwedd y byd. 

"Er eich bod efallai'n teimlo'n siomedig, gallwch gael cyngor a chymorth gan eich ysgolion, colegau a sefydliadau fel Gyrfa Cymru.  Mae llawer o gyfleoedd yn aros amdanoch hyd yn oed os yw'n golygu dilyn llwybr gwahanol i'r un a oeddech wedi bwriadu ei ddilyn.  

"Diolch yn fawr hefyd i'r holl staff addysg, llywodraethwyr, rhieni a gofalwyr sydd wedi cefnogi'r bobl ifanc hyn.  Mae wedi bod yn flwyddyn neu ddwy heriol i bawb ac rydych wedi gwneud gwaith anhygoel. 

"Dymuniadau gorau i bawb sydd nawr yn symud ymlaen i gam nesaf eu bywydau boed hynny gydag addysg bellach neu uwch, hyfforddiant neu ddechrau gyrfa."

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.