Newyddion

Rhybudd am dwyll fasnachwyr

Wedi ei bostio ar Wednesday 6th April 2022

Mae swyddogion safonau masnach Cyngor Dinas Casnewydd yn rhybuddio pobl i fod yn wyliadwrus o bobl sy'n dod i garreg y drws ac yn cynnig gwneud gwaith garddio neu atgyweirio eiddo. 

Mae twyll fasnachwyr yn cam-fanteisio ar bobl sy'n agored i niwed yn eu cartrefi eu hunain ac yn aml mae'r gwaith y maent am ei wneud yn ddiangen neu'n cael ei orbrisio. 

Mae rhai camau y gall pobl eu cymryd i amddiffyn eu hunain rhag y bobl ddiegwyddor hyn: 

  • Ddim yn siŵr? Caewch y drws! Gofynnwch i chi'ch hun a fyddech wedi cael y gwaith wedi’i wneud pe na bai'r twyll fasnachwr wedi galw 
  • Peidiwch â thalu mewn arian parod.  Peidiwch â mynd i'r banc neu'r peiriant twll-yn-y-wal gyda’r twyll fasnachwr
  • Gwnewch eich ymchwil Dylech bob amser gael o leiaf dri dyfynbris cyn cytuno i wneud gwaith
  • Trafodwch unrhyw waith rydych chi'n teimlo sydd angen ei wneud ar eich eiddo gyda ffrindiau a theulu
  • Peidiwch â chytuno i unrhyw waith na llofnodi unrhyw beth yn syth. 
  • Peidiwch â chael eich rhoi dan bwysau i wneud unrhyw waith. 

Os ydych chi'n meddwl bod twyll fasnachwr yn gweithredu yn eich cymuned neu fod rhywun rydych chi'n ei adnabod wedi dod yn ddioddefwr trosedd ar garreg y drws, rhowch wybod i Crimestoppers ar 0800 555 111 neu ewch i http://crimestoppers-uk.org 

Os oes angen help arnoch gydag anghydfod, pryder neu amheuaeth ffoniwch Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133 neu ewch i https://www.citizensadvice.org.uk/consumer/get-more-help/report-to-trading-standards

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.