Newyddion

Mae Canolfan Llong Casnewydd yn paratoi ar gyfer tymor ymwelwyr 2022

Wedi ei bostio ar Wednesday 6th April 2022

Bydd Canolfan Llong Casnewydd yn agor ei drysau cyn bo hir ar gyfer 2022.

O ddydd Gwener 8 Ebrill, bydd y ganolfan ar agor ar ddydd Gwener ac ar ddydd Sadwrn rhwng 10.30am a 4pm.

Bydd ymwelwyr yn gallu dysgu am hanes y llong o'r bymthegfed ganrif, ei phwrpas, pam y suddodd, a'r prosiect i'w hailosod at ei gilydd sydd wedi'i ddisgrifio’n un o bosau 3D mwyaf y byd.

Mae'r ganolfan hefyd yn cynnig teithiau tywys, yn ogystal â manylion diddorol am fywyd yn ystod yr amser yr oedd y llong yn weithredol.

Mae'r tymor ymwelwyr yn bosibl diolch i bartneriaeth rhwng Cyngor Dinas Casnewydd a Chyfeillion Llong Casnewydd, y mae eu gwirfoddolwyr wrth law i roi gwybodaeth i ymwelwyr yn ystod eu taith i Ganolfan y Llong.

Mae mynediad i'r ganolfan am ddim ond mae rhoddion i Gyfeillion Llong Casnewydd yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr.

Cadwch lygad hefyd am weithgareddau arbennig wedi’u cynllunio eleni i nodi ugeinfed pen-blwydd darganfod y llong, gan gynnwys:

  • Ysgarmes ganoloesol am ddim yng nghanolfan y llong gan gynnwys perfformwyr, gweithgareddau teuluol a theithiau ar ddydd Sadwrn 30 Gorffennaf
  • Sgwrs gyhoeddus gan Dr Toby Jones, curadur y prosiect, ar gyfrinachau'r llong a'r hyn y gall ei ddweud wrthym am fywyd ar fwrdd y llong ac yng Nghasnewydd ganoloesol (Sefydliad Lysaght, dydd Iau 12 Mai, 7pm).
Mae tocynnau ar gael nawr ar gyfer y sgwrs gyhoeddus, gyda'r holl arian a godir yn mynd tuag at y prosiect i adfer y Llong. I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.newportship.org.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.