Newyddion

Ffair swyddi'n dychwelyd ar 25 Mai

Wedi ei bostio ar Wednesday 27th April 2022

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ymuno â'r Ganolfan Byd Gwaith ac Ailgychwyn Casnewydd i gynnal ffair swyddi yng Nghanolfan Casnewydd ar 25 Mai. 

Gwahoddir cyflogwyr i arddangos eu swyddi gwag i breswylwyr sy'n chwilio am waith, neu heriau newydd, rhwng 10.30am a 3.30pm. 

Hon fydd ffair swyddi "wyneb yn wyneb" gyntaf Dinas Casnewydd ers cyn i'r pandemig ddechrau ac roedd digwyddiadau blaenorol yn hynod boblogaidd gyda chyflogwyr lleol a cheiswyr gwaith. 

Mae dros 20 o gyflogwyr eisoes wedi cofrestru i gymryd rhan yn y digwyddiad eleni.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.