Newyddion

Nawr ar agor! Dathlu'r Jiwbilî Platinwm gyda llwybr stori teuluol am ddim

Wedi ei bostio ar Saturday 30th April 2022
Jubilee Beacon Trail Image - Welsh

Nawr ar agor!

Bydd Casnewydd yn cymryd rhan mewn llwybr realiti estynedig wedi'i gynllunio'n arbennig i ddathlu Jiwbilî Platinwm y Frenhines.

Mae'r llwybr yn brofiad lle mae’r chwaraewyr yn ymweld â saith cymeriad sydd wedi dod yn fyw o Balas Buckingham i ymweld â lleoliadau o amgylch Casnewydd ar ddiwrnod allan.

Mae’r chwaraewyr, dan arweiniad Syr Barnaby Beacon, yn ymweld â phob cymeriad, gan gynnwys Charlie Crown a Theadora Throne, gan ddysgu am ddegawd gwahanol yn nheyrnasiad 70 mlynedd Ei Mawrhydi a 'dewis eu hantur eu hunain' wrth iddynt symud ar hyd y llwybr.

Mae'r profiad arloesol hwn yn gwbl ddigyswllt ac am ddim – y cyfan sydd ei angen arnoch yw ffôn clyfar. Mae mor hawdd cymryd rhan – sganiwch y codau QR a ddangosir ym mhob un o'r lleoliadau yng nghanol y ddinas a Chaerllion, dewiswch beth sy'n digwydd yn y stori a gweld y cymeriadau'n dod yn fyw mewn realiti estynedig. Gallwch hyd yn oed gymryd hunluniau a recordio fideos gyda nhw!

Casglwch y digidol stampiau ym mhob lleoliad a gallwch hefyd hawlio pecyn hwyl digidol ac e-lyfr am ddim sy'n cynnwys diweddglo’r stori.

Bydd y llwybr ar gael o 30 Ebrill tan 12 Mehefin a bydd yn helpu i greu bwrlwm a chodi ymwybyddiaeth yn yr wythnosau sy'n arwain at gynnau Coelcerth Jiwbilî Casnewydd.

Bydd rhagor o fanylion am y llwybr ar gael yn www.newport.gov.uk/jiwbili a www.jubileebeacontrail.com 

Mae lleoliadau'r llwybrau fel a ganlyn – chwiliwch am y cymeriadau lliwgar fydd yn cael eu harddangos!

  • Coffiology, Stryd Fawr, Caerllion
  • Fresh Start, Comin Goldcroft, Caerllion
  • Marchnad Casnewydd, Stryd Fawr, Casnewydd
  • Coffee Corner, Rhodfa Friars Walk, Casnewydd
  • Theatr Glan yr Afon, Kutaisi Walk, Casnewydd
  • Octopus Lounge, East Dock Road, Casnewydd
  • Hortons Coffee House, Rhodfa’r Mileniwm, Casnewydd

Cyflwynir Llwybr y Beacon mewn partneriaeth â High Street Safari. Mae'r llwybr yn ddiwrnod allan arloesol a hwyliog i chwaraewyr, a gallwch hefyd ddewis gyfrannu i Help for Heroes i gefnogi ein cyn-filwyr a'u teuluoedd.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.