Newyddion

Cabinet yn cytuno i ariannu costau uwch prosiect trawsnewid y Bont Gludo

Wedi ei bostio ar Friday 29th April 2022

Mae cabinet Cyngor Dinas Casnewydd wedi cytuno i ariannu costau uwch prosiect trawsnewid y Bont Gludo mewn cyfarfod a gynhaliwyd ddoe.

Mae'r cytundeb wedi galluogi’r Cyngor, fel ceidwaid y safle treftadaeth unigryw hwn, i benodi contractwyr newydd yn ffurfiol i'r ganolfan ymwelwyr ac elfennau adfer y bont y prosiect.

Cododd yr angen am gontractwyr newydd ar ôl i'r ddau gwmni a benodwyd yn wreiddiol i'r prosiect fynd i ddwylo'r gweinyddwyr, oherwydd pwysau yn y diwydiant adeiladu a achoswyd gan bandemig y coronafeirws.

Ychydig iawn o arian a wariwyd cyn i hyn ddigwydd, a chynhaliodd y Cyngor broses ail-dendro cyn gynted â phosibl. 

Gan adlewyrchu amodau'r farchnad sy'n gwaethygu y mae cefndir byd-eang o gostau uwch a phrinder llafur wedi effeithio arnynt, dychwelodd y tendrau newydd brisiau sylweddol uwch.

Gwnaeth y Cyngor gais i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol am gynnydd i'r grant £8.75m yr oedd wedi cytuno i'w roi o'r blaen.  Cytunodd Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i roi £1.95m ychwanegol, ac mae'r Cyngor yn ddiolchgar am ei chefnogaeth barhaus i'r prosiect.

Mae'r Cyngor hefyd wedi nodi £684k o arbedion yn y prosiect ar ôl cynnal adolygiad peirianneg gwerth.  Nid yw'r arbedion hyn yn newid cwmpas y prosiect yn sylweddol.

Mae'r Cabinet wedi cytuno i ariannu’r £2.922m sy'n weddill yng nghostau'r prosiect er mwyn galluogi’r Cyngor i gadarnhau prisiau'r tendr a phenodi'r contractwyr.

Bydd y Cyngor yn parhau i chwilio am ffynonellau arian ychwanegol ar gyfer y prosiect pwysig hwn, a fydd yn diogelu un o strwythurau treftadaeth amlycaf Casnewydd i genedlaethau'r dyfodol ei fwynhau.  Bydd unrhyw arian pellach a geir yn lleihau'r swm y bydd angen i'r Cyngor ei ddefnyddio o'i gyllideb gyfalaf. 

Mae'r Cyngor wedi parhau i gynnal gwaith ymgysylltu ag ysgolion, grwpiau cymunedol a'r cyhoedd yn ehangach tra bo'r broses ail-dendro wedi'i chynnal, sydd wedi arwain at tua 1400 o bobl yn ymwneud â'r prosiect ers mis Ionawr 2022.  

Bydd y bont ar agor i'r cyhoedd ddydd Llun gŵyl y banc (2 Mai), gyda reidiau gondola a mynediad i'r llwybr cerdded uchaf ar gael rhwng 10am a 3.30pm.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.