Newyddion

Rydym yn chwilio am ofalwyr maeth newydd i'n plant

Wedi ei bostio ar Monday 20th September 2021
foster wales for website press release

Mae Maethu Cymru Casnewydd yn rhan o ymgyrch newydd i recriwtio mwy o ofalwyr maeth awdurdodau lleol ar gyfer plant lleol.

Nod Maethu Cymru, y rhwydwaith o 22 o wasanaethau maethu awdurdodau lleol ledled y wlad, yw cael effaith sylweddol ar ddyfodol pobl ifanc drwy ddenu mwy o ofalwyr maeth.

Ledled y wlad, mae pob plentyn sydd angen gofalwr maeth yng ngofal ei awdurdod lleol.

Mae ymgyrch hysbysebu newydd, sy'n cynrychioli Cyngor Dinas Casnewydd a'r 21 tîm gofal maeth dielw arall ym 'Maethu Cymru', yn cynyddu ar niferoedd y rhieni maeth sydd eu hangen er mwyn helpu i gadw plant yn eu hardal leol, pan fydd hynny'n iawn iddynt. 

Gall helpu plant i aros yn eu cymuned leol fod o fudd mawr a golygu'r byd i blentyn. Nid yn unig y mae'n eu cadw mewn cysylltiad â'u ffrindiau, eu hysgol a'u hymdeimlad o hunaniaeth, ond mae hefyd yn magu hyder ac yn lleihau straen.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Cockeram, aelod cabinet dros wasanaethau cymdeithasol: "Mae gwneud y penderfyniad hwnnw i fod yn ofalwr maeth yn benderfyniad i helpu plant lleol, i wrando arnynt, i gredu ynddynt, i fod ar eu hochr ac i'w caru.

"Drwy ymuno â Maethu Cymru Casnewydd, mae hefyd yn benderfyniad i weithio gyda phobl yn nhîm gofal maeth yr awdurdod lleol sy'n rhannu'r gweledigaethau hynny.

"Rydym yn barod i groesawu llawer mwy o bobl i ymuno â Maethu Cymru Casnewydd dros y misoedd nesaf.

"Bydd ein tîm ymroddedig gyda nhw bob cam o'r ffordd i rannu arbenigedd, cyngor a hyfforddiant.

"Rydym am i fwy o bobl agor eu drysau a gadael plentyn i mewn i'w cartrefi lle gallant ffynnu a thyfu."

 Bydd yr ymgyrch newydd gan Maethu Cymru ar deledu, radio, Spotify a llwyfannau digidol.

Amcangyfrifir bod angen 550 o ofalwyr maeth newydd ledled Cymru i ofalu am nifer y plant sydd angen gofal a chymorth.

 Tra bod pob plentyn yn wahanol, mae'r gofalwr maeth sydd ei angen arno hefyd yn wahanol. Nid oes y fath beth â theulu maeth 'nodweddiadol'. P'un a yw rhywun yn berchen ar ei gartref ei hun neu'n rhentu, p'un a yw rhywun yn briod neu'n sengl. Beth bynnag fo'u rhyw, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hethnigrwydd neu ffydd, mae yna bobl ifanc sydd angen rhywun i fod yn gefn iddynt.

I gael gwybod mwy am faethu'r awdurdod lleol yng Nghasnewydd ewch i https://fosterwales.newport.gov.uk/cy/

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.