Newyddion

Rydym yn cefnogi busnesau Casnewydd

Wedi ei bostio ar Wednesday 29th September 2021
sero waste 2

Mae Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd, wedi lansio pecyn cymorth mwyaf hael y Cyngor ar gyfer busnesau bach a chanolig newydd a phresennol.

I nodi'r achlysur, ymwelodd y Cynghorydd Mudd â Sero Waste, siop ddiwastraff gyntaf Casnewydd a dderbyniodd grant busnes gan y Cyngor.

Mae'r siop yn nhiroedd Tŷ Tredegar yn gwerthu bwydydd cyflawn sych y gellir eu hadlenwi, cynnyrch lleol fel bara, nwyddau wedi'u pobi, llaeth a blodau a dyfir ym Mhrydain yn ogystal â chynhyrchion cynaliadwy y gellir eu hail-lenwi.

Fe'i hagorwyd gan y ffrindiau Liz Morgan a Laura Parry

Meddai Laura: "Fe wnaethon ni ddefnyddio'r grant tuag at y rhent. Roedd y cyngor yn caniatáu i ni ei ledaenu fel ein bod yn ei ddefnyddio'n fisol. Roedd yn ddefnyddiol iawn i ni fel busnes newydd bach ac roedd yn golygu ein bod yn defnyddio'r arian y byddem wedi'i wario ar rent i brynu mwy o stoc.

"Roedd yn bendant wedi gwneud gwahaniaeth. Rydym wedi bod mewn cysylltiad â'r cyngor trwy'r holl broses ac maent wedi bod o gymorth mawr."

Dywedodd y Cynghorydd Mudd: "Dyma'r math o fusnes bach gwych, arloesol yr ydym am ei gefnogi. Mae Liz a Laura yn genhadon gwych ar gyfer y dull moesegol, cynaliadwy hwn sy'n bodloni nid yn unig flaenoriaethau'r cyngor, ond blaenoriaethau pawb sy'n poeni am ein hamgylchedd a'n planed."

Rydym bellach yn gwahodd ceisiadau gan y rhai sy'n ystyried dechrau eu menter eu hunain a'r rhai sydd am i'w busnes dyfu.

Mae'r gyllideb eleni wedi'i chynyddu i £300,000 gyda'r potensial o helpu hyd yn oed mwy o fusnesau.

Ymhlith yr uchafbwyntiau mae:

  • Grantiau o hyd at £5,000 ar gyfer canol y ddinas neu hyd at £2,500 ar draws gweddill y ddinas
  • Bydd hyn yn cynyddu hyd at £10,000 ar gyfer canol y ddinas a hyd at £5,000 ar draws y ddinas ehangach os dangosir cyfraniad sylweddol at flaenoriaethau a nodwyd
  • Gellir defnyddio grantiau ar gyfer costau eiddo sefydlog fel rhent a thaliadau gwasanaeth, costau TG neu ddigidol, neu offer a chyfarpar
  • Cyn hynny bu'n rhaid i ymgeiswyr greu o leiaf un swydd amser llawn ond gall busnesau sy'n creu swyddi rhan-amser hefyd wneud cais
  • Mae busnesau a ddechreuwyd gartref hefyd yn gymwys am y tro cyntaf

Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd: "Rydym wedi gweld cynnydd enfawr yn y ceisiadau am gymorth ariannol o ganlyniad i'r tryblith dros y 18 mis diwethaf.

"Yn ystod y pandemig, roeddem yn gallu cefnogi busnesau yn y ddinas trwy ddyrannu grantiau gwerth miliynau o bunnoedd a rhyddhad ardrethi annomestig.

"Nawr rwyf am wneud mwy i helpu ein busnesau bach a chanolig lleol sy'n barod i ehangu eu busnesau a'r rhai sydd ond yn dechrau. Bydd rhai o'r rhain yn breswylwyr sydd wedi gwneud y penderfyniad hwnnw o ganlyniad uniongyrchol i'w profiadau dros y flwyddyn ddiwethaf.

"Roeddwn yn falch ein bod wedi gallu cynnwys swm sylweddol uwch ar gyfer cymorth busnes yn y gyllideb eleni, gan gynnwys £300,000 ar gyfer ein grantiau cymorth. Rydym yn gwybod bod y rhain wedi gwneud gwahaniaeth mawr i fusnesau rydym eisoes wedi'u helpu ac mae wedi bod yn bleser gennyf gwrdd â rhai o'r derbynwyr a chlywed eu straeon.

"Mae'r gyllideb gynyddol yn golygu y gallwn ni helpu mwy o fusnesau ond hefyd y gallwn ni gynnig lefel ychwanegol o gymorth i fusnesau bach a chanolig sy'n dangos eu bod yn arloesol mewn meysydd megis helpu i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd, trechu tlodi neu leihau gwastraff.

"Cyfnod o ansicrwydd yw hyn o hyd, felly rydym wedi cydnabod yr hyblygrwydd hwnnw. Os bydd blaenoriaethau newydd yn dod i'r amlwg o ganlyniad i'r sefyllfa barhaus, gall y gronfa hefyd addasu i ddiwallu anghenion newydd. Rydym am wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi entrepreneuriaid lleol mewn byd sy'n newid.

"Mae ein busnesau'n hanfodol i lwyddiant a ffyniant Casnewydd ac rydym yn gwybod eu bod yn wydn, yn flaengar ac yn arloesol. Byddwn yn parhau i'w cefnogi pryd bynnag y gallwn, gan weithio fel partneriaid i gyflawni potensial ein dinas a'i thrigolion."

I gael rhagor o wybodaeth am y meini prawf ar gyfer grantiau cymorth busnes Dinas Casnewydd a sut i wneud cais, ewch i https://www.newport.gov.uk/cy/Business/Business-home-page.aspx

More Information