Haf o Hwyl
Wedi ei bostio ar Tuesday 7th September 2021
Haf o Hwyl: Tutortoo
Mwynhaodd cannoedd o blant a phobl ifanc amrywiaeth o weithgareddau am ddim yn ystod gwyliau'r ysgol a drefnwyd gan Gyngor Dinas Casnewydd a phartneriaid.
Roedd prosiect Haf o Hwyl Llywodraeth Cymru gwerth £5 miliwn, a gynhelir drwy gynghorau, yn darparu sesiynau hamdden, chwaraeon a diwylliannol i gefnogi lles cymdeithasol, emosiynol, corfforol a meddyliol.
Dyfarnwyd cyllid gan y cyngor i sefydliadau gan gynnwys Casnewydd Fyw, Bigger Picture, Kids Care 4 U, Canolfan Mileniwm Pill, Sparkle, Tutortoo, Urban Circle, Clybiau Plant Cymru, Newport Mind, Autism Hidden Voices, Eyst, Gŵyl Maendy, Menter Casnewydd, Oak Hill, Operasonic a Pobl.
Ac fe wnaeth timau'r cyngor ei hun hefyd greu rhaglen o weithgareddau drwy'r Hybiau Cymdogaeth.
Yn ogystal, darparodd y rhaglen cyfoethogi gwyliau ysgol, a ariannwyd gan CLlLC, addysg bwyd a maeth, gweithgarwch corfforol a phrydau iach i blant mewn ardaloedd o amddifadedd cymdeithasol drwy'r cynllun Bwyd a Hwyl.
Roedd cynlluniau chwarae'r Cyngor hefyd yn gweithredu am bedair wythnos gyda sesiynau i blant pump i 12 oed ym Metws a Pill a sesiynau golau mewn mannau agored ledled y ddinas.