Gweld, clywed, dysgu, defnyddio a charu'r Gymraeg
Wedi ei bostio ar Monday 27th September 2021
Mae Cyngor Dinas Casnewydd am i'r Gymraeg ddod yn rhan o fywydau pawb yn y ddinas dros y 10 mlynedd nesaf wrth iddi gyflwyno cynigion uchelgeisiol i annog pobl i ddysgu a siarad yr iaith.
Mae'r Cyngor yn ceisio barn trigolion ar ei gweledigaeth 10 mlynedd ar gyfer y Gymraeg mewn addysg ledled y ddinas.
Dechreuodd ymgynghoriad ar y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg drafft ar 27/09/2021 ac mae'n cau ar 22/11/2021.
Bydd adborth gan breswylwyr yn cael ei ddefnyddio i lunio'r cynllun drafft terfynol cyn iddo fynd at Lywodraeth Cymru i'w gymeradwyo.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd: "Erbyn hyn mae gennym bedair ysgol gynradd Gymraeg yng Nghasnewydd ar ôl i Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli agor y tymor hwn, ac agorodd ein hysgol gyfun ein hunain, Ysgol Gyfun Gwent Is Coed, yn 2017. Ein nod yw cael hyd yn oed mwy o ddarpariaeth dros y degawd nesaf.
"Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod mwy y gallwn ei wneud o hyd i helpu i gyrraedd y targed cenedlaethol o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a chynyddu canran y rhai sy'n defnyddio'r iaith bob dydd.
"Rydym am i'n hiaith genedlaethol fod yn rhan o wead y ddinas, yn rhan sylfaenol o bob agwedd ar fywydau pobl. Y cynllun drafft yw'r cam nesaf tuag at wireddu'r uchelgais hwnnw ac rydym am wybod beth yw eich barn amdano."
Dywedodd y Cynghorydd Jason Hughes, hyrwyddwr iaith Gymraeg y cyngor: "Rydym am i drigolion fod yn rhan o'r broses hon gan y bydd hon yn strategaeth hirdymor i ddod â'r Gymraeg i fywydau pawb.
"Mae'r Gymraeg yn fyw, yn fywiog ac yn hanfodol ac rydym am sicrhau bod pob preswylydd, beth bynnag fo'i oedran, yn cael y cyfle i ddysgu a siarad eu hiaith genedlaethol. Ein neges yw 'gweld, clywed, dysgu, defnyddio a charu'r iaith'. Rhowch wybod i ni os credwch y bydd ein cynllun drafft yn ein helpu i gyflawni'r uchelgais hwnnw."
Dywedodd y Cynghorydd Deborah Davies, aelod cabinet y cyngor dros addysg: "Mae'r cynllun yn cynnig saith amcan allweddol ac yn nodi ble rydyn ni nawr, lle rydyn ni eisiau bod mewn pum mlynedd a lle rydyn ni eisiau bod ar ddiwedd y cynllun.
"Mae hyn yn cynnwys cynyddu nifer y lleoedd a'r staff mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg oherwydd ein bod yn cydnabod bod ein pobl ifanc yn dal yr allwedd i ddefnyddio'r iaith mwy ac mae'n rhodd a fydd ganddynt am weddill eu bywydau.
"Nid rhywbeth y dylid dim ond ei chadw a'i thrysori fel rhan sylweddol o'n treftadaeth yw'r Gymraeg, ond yn rhywbeth y dylid ei feithrin fel y gall barhau i ffynnu a chyfoethogi bywydau yn yr 21ain ganrif."
https://www.newport.gov.uk/cy/Schools-Education/Learning-Welsh-in-Newport/Welsh-in-Education-Strategic-Plan-2022-2032.aspx