Newyddion

Dargyfeirio cerddwyr oddi ar Hen Bont Basaleg

Wedi ei bostio ar Monday 6th September 2021

Mae gwaith atgyweirio ac asesiadau strwythurol ar Hen Bont Basaleg yn parhau a bydd y bont yn parhau ar gau tan i beirianwyr gadarnhau ei bod yn ddiogel ei defnyddio.

 

Yn y cyfamser, gyda disgyblion yn dychwelyd i'r ysgol yr wythnos nesaf, mae llwybr gwahanol i gerddwyr a mesurau diogelwch ychwanegol yn cael eu rhoi ar waith.

 

Bydd cerddwyr yn cael eu dargyfeirio o Park View ar hyd y droedffordd i'r croesfan i gerddwyr yn Forge Road ac i Bassaleg Road wrth gyffordd Court Crescent.

 

Bydd arwyddion yn eu lle o'r ddau gyfeiriad a bydd marsialiaid traffig yn monitro ar adegau prysur.

 

Dylai disgyblion sy'n cerdded i Ysgol Basaleg a fyddai fel arfer yn defnyddio Hen Bont Basaleg ddefnyddio'r llwybr diogel hwn a pheidio â defnyddio'r bont droed.

 

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achosir yn sgil y gwyriad dros dro sydd ar waith oherwydd gorfod cau Hen Bont Basaleg ar frys.

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.