Newyddion

Delwedd newydd o'r ganolfan hamdden arfaethedig

Wedi ei bostio ar Wednesday 8th September 2021
leisure centre image Sept 21

Yn dilyn cyflwyno'r cais ar gyfer y ganolfan hamdden newydd arfaethedig ar gyfer canol y ddinas, mae Cyngor Dinas Casnewydd yn rhannu delwedd newydd o sut y gallai edrych.

Mae'r cais bellach ar agor ar gyfer ymgynghori a gellir ei weld yma https://publicaccess.newport.gov.uk/online-applications/applicationDetails.do?keyVal=QYAKBULCJBL00&activeTab=summary

Disgwylir iddo fynd gerbron y pwyllgor cynllunio llawn yn ddiweddarach eleni pan fydd penderfyniad yn cael ei wneud.

Ym mis Chwefror, cymeradwyodd y cabinet greu canolfan bwrpasol newydd, gyda chyfleusterau modern, wedi'i lleoli ar safle allweddol ar lan yr afon a byddai'n disodli Canolfan Casnewydd, sy'n dechrau heneiddio.

Os bydd y pwyllgor cynllunio'n bwrw ymlaen, caiff ei adeiladu i'r safonau amgylcheddol a chynaliadwy uchaf posibl.

Cymeradwyodd y Cabinet hefyd gynnig i drosglwyddo safle Canolfan Casnewydd i Goleg Gwent er mwyn iddo allu bwrw 'mlaen â'i uchelgais i gael campws yng nghanol y ddinas mewn adeiladau newydd sy'n cynnig amgylchedd dysgu o'r radd flaenaf.

Cafwyd mwy na 1,000 o ymatebion i ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion gyda'r mwyafrif llethol yn cefnogi'r datblygiadau newydd arfaethedig.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.