Newyddion

Dirwy am dipio gwastraff yn anghyfreithlon yn y ddinas

Wedi ei bostio ar Thursday 23rd September 2021

Cafodd dau ddyn o Gaerdydd a ollyngodd gwastraff yn anghyfreithlon yng Nghasnewydd eu herlyn yn llwyddiannus a gorchmynnwyd iddynt dalu £1,540 yr un yn llys ynadon y ddinas.

Fe blediodd Bradley Robert Lynn, 23 oed o'r Sblot, a Connor Anthony Leighton Williams, 28 oed o Trowbridge, yn euog i drosedd dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.

Cipiodd teledu cylch cyfyng Lynn a Williams yn gollwng gwastraff rheoledig o gerbyd masnachol heb ei gofrestru a heb dreth, ger mynedfa'r hen safle LG yng Nghoedcernyw ar ddau achlysur gwahanol.

Gweithiodd Cyngor Dinas Casnewydd gyda Thîm Troseddau Gwledig Heddlu Gwent a Taclo Tipio Cymru i ddod â'r diffynyddion i'r llys.

Dywedodd y Cynghorydd Roger Jeavons, Aelod Cabinet y Cyngor dros Wasanaethau'r Ddinas: "Hoffwn ddiolch i'r cyhoedd am ddarparu gwybodaeth a arweiniodd at adnabod y ddau berson hyn.

"Yn ogystal â dirwyon, gallent fod wedi wynebu cyfnod yn y carchar am y drosedd hon ac rwy'n gobeithio y bydd yr erlyniad hwn yn rhwystr i eraill sy'n tipio gwastraff yn anghyfreithlon.

"Dylai preswylwyr hefyd nodi, os ydynt yn cyflogi eraill i glirio gwastraff ac nad yw'n cael ei waredu'n gyfreithiol, y byddent hefyd yn atebol ac y gellid eu herlyn.

"Ni fyddwn yn petruso cyn cymryd camau yn erbyn y rhai sy'n tipio sbwriel yn fwriadol ar ein tir. Mae'n drosedd sy'n difetha ein cymunedau, y ddinas a'n hamgylchedd ac ni fydd yn cael ei goddef."

Cafodd Lynn a Williams ddirwy o £400, gorchymyn i dalu costau o £1,100 a gordal dioddefwr o £40.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.