Newyddion

Cromwell Road - diweddariad

Wedi ei bostio ar Wednesday 15th September 2021

Mae gwaith yn parhau i fynd rhagddo i drwsio’r gwagle o dan Cromwell Road a’r gobaith yw y caiff ei gwblhau cyn gynted â phosibl.

 

Bu'n rhaid cynnal ymchwiliadau i ganfod achos y broblem cyn y gellid gwneud gwaith adferol.

 

Darganfuwyd bod cwlfert brics yn cario cwrs dŵr hanesyddol yn rhedeg o dan y ffordd gerbydau wedi'i ddifrodi a bod dŵr wedi dechrau gollwng drwy'r ochrau.

 

Ni chadarnhawyd hyn tan yn hwyr brynhawn Gwener.  Dychwelodd contractwyr i'r safle heddiw ar ôl cytuno ar gynllun gwaith i sicrhau ateb hirdymor.

 

Mae'n rhaid i gontractwyr lanhau'r cwlfert a gwneud atgyweiriadau i'r cwlfert cyn y gellir adfer y ffordd a'i hagor i draffig eto.

 

Bydd y ffordd yn parhau ar gau ac eithrio i breswylwyr sy'n mynd i'w cartrefi. Mae'r palmant hefyd yn parhau i fod ar agor i gerddwyr.

 

Rydym yn ymwybodol bod rhai gyrwyr wedi symud y rhwystrau diogelwch ac osgoi'r gwaith ffordd drwy yrru ar y palmant er gwaethaf yr arwyddion sydd ar waith.

 

Cafodd y safle ei fonitro dros y penwythnos a byddem yn annog pobl i beidio â bod mor anghyfrifol.  Gallent fod yn peryglu bywydau pobl yn hytrach na neilltuo mwy o amser i deithio a defnyddio'r gwyriad.

 

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.