Newyddion

Cyngor yn croesawu cadarnhad o ddiwygiadau i ffiniau wardiau

Wedi ei bostio ar Friday 24th September 2021

Bydd rhai o ffiniau wardiau Cyngor Dinas Casnewydd yn newid ar ôl i Lywodraeth Cymru benderfynu derbyn argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru.

Dim ond un mân addasiad a wnaed i enw Cymraeg ward Gaer, i Y Gaer.

Mae'n golygu y bydd nifer y cynghorwyr yng Nghasnewydd yn cynyddu gan un, gan fynd â'r cyngor o 50 i 51 o aelodau - cyfartaledd o 2.156 o etholwyr fesul aelod.

Bydd nifer y wardiau hefyd yn cynyddu o 20 i 21, gyda 18 ward yn ethol mwy nag un cynghorydd.

Bydd un ar ddeg o'r wardiau presennol yn aros yr un fath. Daw'r newidiadau i rym cyn etholiadau nesaf y cyngor ym mis Mai 2022.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd: "Ystyriodd y comisiwn dwf presennol a rhagweladwy'r ddinas wrth wneud ei argymhellion ac mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno â'r dull hwnnw.

"Yn ystod y broses, gwnaeth y cyngor nifer o sylwadau i'r comisiwn sy'n rhan o'r diwygiadau sydd bellach wedi'u cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru. Yn benodol, mae hyn yn golygu y bydd y cymorth democrataidd priodol ar waith mewn ardaloedd sydd â heriau economaidd-gymdeithasol.

"Bydd y newidiadau i rai wardiau etholiadol yn sicrhau mwy o gydraddoldeb etholiadol ar draws y ddinas a gall hynny ond fod yn gam cadarnhaol i'r etholwyr yng Nghasnewydd."

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.