Newyddion

Tŵr y cloc yn troi'n binc ar gyfer uned newydd y fron #EwchYnBinc

Wedi ei bostio ar Tuesday 5th October 2021

Ddydd Gwener 8 Hydref, bydd tŵr cloc y Ganolfan Ddinesig yn cael ei oleuo'n binc fel rhan o ymgyrch i gefnogi uned fron newydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Gofynnodd Cyfeillion Codi Arian yr uned gofal y fron newydd i sefydliadau ledled Gwent "droi'n binc" gan y bydd y cyfleusterau newydd arfaethedig o fudd i drigolion ar draws y rhanbarth.

Er mwyn rhoi'r gofal gorau posibl i gleifion â chyflyrau'r fron, mae'r bwrdd yn adeiladu "canolfan ragoriaeth" yn Ysbyty Ystrad Fawr.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd: "Rwy'n falch ein bod yn gallu dangos ein cefnogaeth i ddatblygiad mor bwysig a fydd yn darparu gofal o'r radd flaenaf i bobl sy'n byw yng Nghasnewydd a gweddill ardal Aneurin Bevan."

Mae Cyfeillion yr uned yn darparu grwpiau cymorth i gleifion canser y fron a'u teuluoedd; codi arian i wella'r amgylchedd mae cleifion canser y fron yn cael eu trin ynddo a chefnogi prosiectau sy'n gwella profiad y rhai sy'n mynychu'r uned.

https://www.justgiving.com/campaign/ABUHB-Breast-Care-Unit?success=true

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.