Newyddion

Amseroedd agor y fynwent a mynediad i gerbydau

Wedi ei bostio ar Tuesday 7th September 2021

Mae mynediad i gerddwyr i fynwentydd Casnewydd ar gael yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau rhwng 6.30am a 4.45pm.

Cyfyngir mynediad i gerbydau i ddydd Sadwrn a dydd Sul rhwng 6.30am a 4.45pm.

Mae hyn er mwyn sicrhau diogelwch pob ymwelydd a chaniatáu i beiriannau a ddefnyddir i baratoi beddau gael eu gweithredu'n ddiogel. Bydd hefyd yn cynnig cyfleoedd i alarwyr ac ymwelwyr fyfyrio'n dawel, heb eu hamharu gan sŵn o gerbydau.

Os oes angen mynediad penodol oherwydd problemau symudedd, cysylltwch â'r cyngor ar 01633 656656 neu [email protected].

More Information