Dinas Casnewydd yn anrhydeddu'r Lleng Brydeinig Frenhinol
Wedi ei bostio ar Thursday 28th October 2021
Rhoddodd Cyngor Dinas Casnewydd Rhyddid Dinas Casnewydd i’r Lleng Brydeinig Frenhinol mewn seremoni arbennig heddiw.
Rhoddwyd yr anrhydedd prin hwn i gydnabod a gwerthfawrogi gwasanaeth y Lleng Brydeinig Frenhinol i'r wlad wrth i’r sefydliad gyrraedd ei ganmlwyddiant.
Mae heddiw hefyd yn nodi lansiad Apêl Pabi flynyddol y sefydliad sy'n cefnogi cymuned y Lluoedd Arfog, yn y gorffennol a'r presennol, a'u teuluoedd.
Mynychodd aelodau'r Lleng ac urddasolion, gan gynnwys Arglwydd Raglaw Gwent a'r Uchel Siryf, seremoni yng nghanol y ddinas.
Darllenodd y prif weithredwr Beverly Owen y Sgrôl Rhyddid cyn i'r Arweinydd, y Cynghorydd Jane Mudd, annerch yr orymdaith.
Yna trosglwyddodd y Maer, y Cynghorydd David Williams, y sgrôl i’r Is-gyrnol MJ Harry DL, Llywydd Lleng Brydeinig Frenhinol Gwent.
Ar ôl y seremoni, gofynnodd Peter Colsey, Cadlywydd yr Orymdaith, am ganiatâd gan y Maer i arfer hawl y Lleng Brydeinig Frenhinol i orymdeithio drwy Ddinas Casnewydd.
Wrth iddynt wneud eu ffordd o'r Stryd Fawr a thrwy Commercial Street, cawsant eu gwylio gan dorfeydd o bobl a oedd wedi troi allan i weld yr achlysur ac yn talu eu parch i'r Lleng.
Dywedodd y Cynghorydd Mudd: "Mae Rhyddid Dinas Casnewydd wedi cael ei ddyfarnu llai nag 20 gwaith mewn mwy na 100 mlynedd felly mae hwn yn ddiwrnod pwysig i ni i gyd.
"Mae Casnewydd yn falch o'i chysylltiad agos â'r Lleng ac mae hwn yn deyrnged addas i sefydliad sydd wedi rhoi gwasanaeth mor hir a ffyddlon.
"Ar ran cyngor y ddinas a'i ddinasyddion, mae'n bleser mawr gennyf longyfarch y Lleng ar ei chanmlwyddiant a diolch i bawb sy'n gysylltiedig, yn enwedig ei gwirfoddolwyr yng Nghasnewydd, am bopeth y maent wedi'i wneud a'r cyfan y maent yn parhau i'w wneud i bobl sy'n gwasanaethu a'u teuluoedd.
"Gyda’r lansiad Apêl Pabi flynyddol hefyd yn cael ei gynnal heddiw, rwy'n siŵr y bydd miliynau o bobl unwaith eto yn helpu i gefnogi gwaith amhrisiadwy'r Lleng, yn gwisgo’u pabi ac yn cofio pawb sydd wedi aberthu cymaint dros ein rhyddid."
Dywedodd Antony Metcalfe, Rheolwr Ardal Cymru’r Lleng Brydeinig Frenhinol: "Mae'r Lleng Brydeinig Frenhinol yng Nghymru yn falch iawn o gael Rhyddid y Ddinas Casnewydd ochr yn ochr â lansiad Apêl Pabi'r Canmlwyddiant.
"Mae'n gymaint o anrhydedd cael ein cydnabod am ein gwaith diflino sy'n cefnogi cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghasnewydd a gweddill Cymru. Mae Apêl y Pabi 2021 bellach wedi dechrau, felly rydym yn annog pob aelod o'r cyhoedd i fynd allan i ddod o hyd i'w casglwr lleol i brynu eu pabi a'i wisgo gyda balchder."