Newyddion

Mae parciau Casnewydd yn dathlu statws Baner Werdd

Wedi ei bostio ar Thursday 14th October 2021

Mae dau barc yng Nghasnewydd wedi cael eu cydnabod am eu rhinweddau amgylcheddol gyda gwobr genedlaethol unwaith eto.

Mae Parc Beechwood a Pharc Belle Vue ill dau wedi ennill statws Baner Werdd ar gyfer 2021/22 gan Cadwch Gymru'n Daclus. 

Mae trydydd safle a reolir gan y Cyngor, sef Amlosgfa Gwent, hefyd wedi cael cydnabyddiaeth Baner Werdd.

Mae Gwobrau'r Faner Werdd yn cydnabod parciau a mannau agored sydd ar gael i'r cyhoedd am eu cyfleusterau ymwelwyr rhagorol, safonau amgylcheddol uchel, ac ymrwymiad i ddarparu mannau gwyrdd o ansawdd uchel.

Dyma'r bymthegfed flwyddyn yn olynol i Belle Vue gael statws Baner Werdd, a dyma'r bumed flwyddyn yn olynol i Amlosgfa Gwent a'r pedwaredd flwyddyn yn olynol i Beechwood.

Mae Parc Belle Vue hefyd wedi cadw ei statws Treftadaeth Werdd am y pedwaredd flwyddyn yn olynol.

Dywedodd y Cynghorydd Deb Harvey, aelod cabinet dros ddiwylliant a hamdden,"Rwyf wrth fy modd bod parciau Belle Vue a Beechwood wedi cadw eu statws Baner Werdd unwaith eto.

"Mae'n arbennig o braf bod hyn yn nodi'r pymthegfed flwyddyn yn olynol i Barc Belle Vue dderbyn y wobr.

"Hoffwn ddiolch i'n swyddogion am eu gwaith caled yn gofalu am ein mannau gwyrdd sydd wedi gwneud y cyflawniad gwych hwn yn bosibl. Rwyf hefyd am ddiolch i'n garddwyr a'r holl gymorth gan Gyfeillion Parciau Addurnol Casnewydd."

Ychwanegodd y Cynghorydd Roger Jeavons, dirprwy arweinydd y cyngor ac aelod cabinet dros wasanaethau'r ddinas," "Rwy'n falch iawn o weld Amlosgfa Gwent yn cael ei chydnabod am bumed flwyddyn yn olynol gyda Gwobr y Faner Werdd.

"Rydym wedi gweithio'n galed fel cyngor i wneud ein mannau mynediad cyhoeddus mor wyrdd â phosibl. Mae'r gwobrau hyn yn dangos yr ymrwymiad hwnnw."

Mae 248 o barciau a mannau gwyrdd ledled y wlad wedi derbyn Gwobr y Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd fawreddog – o barciau gwledig a gerddi ffurfiol, i randiroedd, coetiroedd a mynwentydd.

Cyflwynir rhaglen Gwobr y Faner Werdd yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol, Cadwch Gymru'n Daclus, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Caiff y safleoedd sy’n ymgeisio am y wobr eu dyfarnu gan arbenigwyr mannau gwyrdd gwirfoddol ar ddechrau’r hydref, sy’n eu hasesu yn erbyn wyth maes prawf cadarn, gan gynnwys bioamrywiaeth, glendid, rheoli amgylcheddol a chynnwys y gymuned.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.