Newyddion

Dechrau gwaith clirio ffordd fynediad LG

Wedi ei bostio ar Friday 8th October 2021

Bydd gwaith yn dechrau’n fuan i glirio gwastraff sydd wedi'i dipio'n anghyfreithlon ar hen ffordd fynediad LG yng Nghoedcernyw. 

Yn dilyn proses dendro a gynhaliwyd ym mis Medi, mae'r Cyngor wedi dyfarnu contract i GD Environmental yng Nghasnewydd i wneud y gwaith y disgwylir iddo ddechrau'r mis hwn.

Daw’r penderfyniad hwn ar ôl i ddau ddyn o Gaerdydd, a gafodd eu dal yn gollwng gwastraff yn anghyfreithlon ar y safle, gael eu herlyn a'u dirwyo'n llwyddiannus yn Llys Ynadon Casnewydd.

Mae'r Cyngor hefyd wedi cyhoeddi pum hysbysiad cosb benodedig arall am droseddau tipio anghyfreithlon ac wedi atafaelu dau gerbyd sy'n gysylltiedig â throseddau.

Caiff teiars a deunyddiau peryglus eu symud o'r safle yn gyntaf. Wedyn caiff gwastraff arall ei symud i'w ddidoli fel y gellir ailgylchu cymaint â phosibl. 

Bydd gwell diogelwch a theledu cylch cyfyng yn parhau ar waith ar y safle ar ôl iddo gael ei glirio i atal mwy o dipio anghyfreithlon.

Mae'r Cyngor hefyd yn gweithio gyda grŵp cymunedol lleol, Cyfeillion y Ffordd i Natur, ar gynlluniau i wella'r ardal ymhellach ar ôl i'r gwaith clirio gael ei gwblhau.

Dywedodd y Cynghorydd Roger Jeavons, Dirprwy Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau’r Ddinas:  "Rwy'n falch o gyhoeddi y bydd gwaith i glirio’r safle hwn yn dechrau'n fuan iawn.

"Rydyn ni'n gwybod bod strydoedd glân yn flaenoriaeth i bobl Casnewydd. Rydym yn rhannu eu rhwystredigaeth o weld troseddwyr yn gollwng gwastraff yn anghyfreithlon ar ein strydoedd.

"Mae'r weithred hon yn ailgadarnhau ein hymrwymiad i gadw ein strydoedd yn lân. Ynghyd â'n gwaith diweddar i nodi ac erlyn tipwyr anghyfreithlon, mae'n dangos na fyddwn yn goddef y gweithredoedd hyn yn ein dinas.

"Rydym hefyd am i'r gymuned adennill y lle hwn ar ôl i’r gwaith clirio gael ei gwblhau. I'r perwyl hwnnw, rwy'n falch iawn bod grŵp Cyfeillion y Ffordd i Natur eisoes wedi mabwysiadu'r lle. Edrychaf ymlaen at weld y cynlluniau ar gyfer gwelliannau pellach i'r safle."

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.