Newyddion

Casgliadau gwastraff gardd i ddod i ben dros y gaeaf

Wedi ei bostio ar Tuesday 12th October 2021

Bydd casgliadau biniau gwastraff gardd yn dod i ben ar gyfer y gaeaf ar ddydd Gwener 26 Tachwedd. Mae hyn yn golygu y bydd y casgliadau olaf rhwng 15 a 26 Tachwedd (yn dibynnu ar eich diwrnod casglu).

Bydd y casgliadau'n ailddechrau ar ddydd Llun 28 Chwefror 2022. 

Rhwng mis Tachwedd a mis Mawrth gellir mynd â gwastraff gwyrdd i'r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref (CAGC) yn Docks Way (mae angen archebu lle). Gellir rhoi blodau wedi’u torri yn y cadis gwastraff bwyd gyda’r bwyd gwastraff.

Gall preswylwyr wirio eu dyddiadau casglu yn www.newport.gov.uk/Ailgylchu