Newyddion

Casnewydd i ddefnyddio'r gwaith wnaed ar y Ddinas Diwylliant fel sbardun i'r dyfodol

Wedi ei bostio ar Friday 8th October 2021

Er na lwyddodd i fynd ymlaen i'r cam nesaf yn y cais i ddod yn Ddinas Diwylliant y DU 2025, bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn defnyddio'r gwaith a wnaed a'r partneriaethau a grëwyd er budd parhaus y ddinas.

Dwedodd y Cynghorydd Jane Mudd, arweinydd y Cyngor: "Rydym yn siomedig iawn yn naturiol na allwn fynd â'n cais i fod yn Ddinas Diwylliant y DU 2025 i'r lefel nesaf, ond yn bendant nid dyma ddiwedd y stori hon.

"Cawsom ein synnu gan lefel y gefnogaeth a gawsom gan bartneriaid a sefydliadau, mawr a bach, wrth ddatblygu'r datganiad o ddiddordeb. Mae'n dangos pa mor angerddol y mae pobl am ein dinas a thrwy gydweithio gallwn gyflawni hyd yn oed mwy o bethau.

"Byddwn yn defnyddio'r cyfle hwn fel sbardun i ddatblygu ein partneriaethau diwylliannol a'n harlwy ehangach yng Nghasnewydd ymhellach. 

"Dyn ni ddim wedi sefyll yn llonydd wrth aros am y cyhoeddiad hwn, felly byddwn yn parhau â'r trafodaethau hynny gyda'r nod o gael llawer o'r prosiectau cyffrous ar y gweill er nad oes ganddyn nhw’r manteision ychwanegol y byddai'r teitl wedi'u rhoi iddyn nhw.

“Roedd hyn i gyd er mwyn sicrhau bod pobl yn teimlo’n dda am fyw a gweithio yng Nghasnewydd, ac am fuddsoddi ynddi ac ymweld â hi. Rydyn ni dal eisiau manteisio ar bob cyfle i hyrwyddo hyder a balchder yn ein cymunedau ac i ddangos Casnewydd ar ei gorau – ac rwy wirioneddol yn teimlo ein bod ni bellach mewn sefyllfa gryfach nag erioed i wneud hynny."

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.