Newyddion

Dinas i anrhydeddu'r Lleng Brydeinig Frenhinol

Wedi ei bostio ar Friday 8th October 2021

Ddydd Iau 28 Hydref, bydd y Lleng Brydeinig Frenhinol yn cael Rhyddid Dinas Casnewydd wrth i'r sefydliad nodi ei flwyddyn canmlwyddiant.

Cytunodd Cyngor Dinas Casnewydd yn gynharach eleni i roi'r anrhydedd prin hwn i gydnabod a gwerthfawrogi gwasanaeth hir a ffyddlon y Lleng Brydeinig Frenhinol i'r wlad.

Bydd aelodau'r Lleng Brydeinig Frenhinol a'r urddasogion, gan gynnwys Maer Casnewydd, Arweinydd y cyngor, Arglwydd Raglaw Gwent, yr Uchel Siryf ac ASau, yn bresennol yn y digwyddiad.

Bydd y digwyddiad yn dechrau am hanner dydd pan fydd Band Catrodol a Chorfflu Drymiau'r Cymry Brenhinol yn arwain gorymdaith o Cambrian Road, drwy Bridge Street a'r Stryd Fawr i gofeb D-Day.

Bydd y prif weithredwr Beverly Owen yn darllen y Sgrôl Rhyddid cyn i'r Arweinydd, y Cynghorydd Jane Mudd, annerch yr orymdaith. 

Bydd y Maer, y Cynghorydd David Williams, yn trosglwyddo'r sgrôl i'r Is-gyrnol MJ Harry DL, Llywydd Lleng Brydeinig Frenhinol Gwent.

Ar ôl y seremoni, bydd Peter Colsey, Cadlywydd yr Orymdaith, yn gofyn am ganiatâd gan y Maer i arfer hawl y Lleng Brydeinig Frenhinol i orymdeithio drwy Ddinas Casnewydd.

Bydd y cyfranogwyr yn gorymdeithio o'r Stryd Fawr i Sgwâr Westgate a thrwy Commercial Street i'r gyffordd â Charles Street a Llanarth Street.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.