Marathon ABP Casnewydd Cymru a 10K – gwybodaeth i breswylwyr
Wedi ei bostio ar Friday 22nd October 2021
Cynhelir yr trydydd Farathon a 10k Casnewydd Cymru ddydd Sul 24 Hydref.
Bydd hyd at 7,000 o redwyr yn mynd ar y strydoedd i gynnal digwyddiadau Marathon, 10K a Ras Hwyl Milltir i'r Teulu.
Am faint o’r gloch bydd yn dechrau?
Cynhelir yr Marathon a 10k Casnewydd Cymru ABP ddydd Sul 24 Hydref. Bydd y marathon yn dechrau am 09:00 a bydd y Ras 10K yn dechrau am 09:45.
Beth yw’r llwybr?
Crëwyd y llwybr ar gyfer marathon Casnewydd Cymru ABP gan y rhedwr marathonau, Steve Brace, sydd wedi ennill dwy fedal Olympaidd, ac mae’n dilyn yr un llwybr â’r rasys 2018 a 2019.
Bydd y llwybr cylch unigol yn mynd â rhedwyr heibio Prifysgol De Cymru a chanolfan brysur Friars Walk cyn mynd dros Bont SDR, trwy ddwyrain y ddinas ac i mewn i’w hardaloedd gwledig. Cyn sbrintio ar hyd Afon Wysg tuag at y llinell gorffen, caiff rhedwyr y cyfle i weld bywyd gwyllt yr arfordir ar Wastadeddau Gwent a Gwlypdiroedd Casnewydd – un o safleoedd gwylio adar mwyaf poblogaidd y DU.
Bydd llwybr y 10K hefyd yn dechrau wrth Lan yr Afon gan fynd trwy ganol y ddinas sydd wedi’i hadfywio ac ar hyd Pont Gludo Casnewydd.
Ble mae Pentref y Ras?
Bydd Pentref y Ras wrth ymyl adeilad Prifysgol De Cymru ar Ffordd Brynbuga.
Ble gallaf barcio ar ddiwrnod y rasys?
Bydd gwasanaeth parcio a theithio ar waith o’r Swyddfa Ystadegau Gwladol. Gellir dod o hyd i fanylion am ddewisiadau parcio ledled y ddinas yma.
Bydd maes parcio Park Square yn agor yn gynt ddydd Sul (7.30am) i redwyr a gwylwyr. Hefyd bydd maes parcio Ffordd y Brenin ar agor gyda mynediad arbennig ar Ffordd y Brenin (heibio Theatr y Dolman).
Sylwer na fydd y meysydd parcio canlynol ar gael yn ystod y digwyddiad:
Emlyn Street (ar gau ddydd Gwener, dydd Sadwrn, dydd Sul, dydd Llun)
Glan yr Afon (ar gau ddydd Gwener, dydd Sadwrn, dydd Sul)
Friars Walk (ar gau ddydd Sul)
A fydd ffyrdd ar gau?
Caiff ffyrdd eu cau yn ystod oriau cynnar dydd Sul 24 Hydref ac mae angen eu cau i alluogi cynnal y rasys a diogelu’r rhedwyr.
Mae trigolion a busnesau ar hyd y llwybr wedi derbyn manylion ysgrifenedig llawn am gau’r ffyrdd.
Bydd ffyrdd yn ailagor ar sail dreigl wrth i'r ras fynd yn ei blaen. Nodwch nad oes disgwyl i Ffordd Brynbuga ailagor tan 19:00 ar y cynharaf.
Edrychwch ar mapiau a manylion cau ffyrdd ar hyd y llwybr.