Rhaid i chi ei finio er mwyn llwyddo, wrth i Litter Lotto lansio yng Nghasnewydd
Wedi ei bostio ar Tuesday 23rd November 2021
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn cefnogi ag ap raffl newydd i gynnig cyfle i drigolion ennill gwobrau dim ond am ddefnyddio biniau sbwriel.
Mae Litter Lotto yn raffl fisol sy'n cynnig cyfle i gyfranogwyr ennill gwobrau sy'n amrywio o £5 i £10,000.
Gall chwaraewyr gymryd rhan drwy lawrlwytho'r ap Litter Lotto a llwytho llun o’u hunain yn gwaredu eu sbwriel (neu sbwriel rywun arall) i fin.
Bydd pob chwaraewr yn derbyn un ‘tocyn’ i'r raffl fisol ar gyfer pob llun a gaiff ei uwchlwytho ganddynt.
Er bod cyllid ar gyfer y gwobrau yn dod gan bartneriaid corfforaethol Litter Lotto, mae'r cyngor wedi bod yn rhoi cymorth technegol i Litter Lotto cyn lansio'r gêm yn y Deyrnas Gyfunol, a bydd yn hyrwyddo'r ap ar finiau ar draws y ddinas er mwyn ceisio annog trigolion i gymryd rhan.
Dwedodd y Cynghorydd Roger Jeavons, dirprwy arweinydd y cyngor: "Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi'r fenter wych hon.
"Rydym yn gwybod bod strydoedd glân yn flaenoriaeth i bobl Casnewydd, ac rydym yn falch o fod yn cefnogi Litter Lotto ar ddulliau newydd o fynd i'r afael â sbwriel."
Dwedodd David Landsberg, sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Litter Lotto: "Cyn i'n ap gael ei ddatblygu, gwahoddais sawl cyngor i roi mewnbwn a chyngor o'u safbwynt nhw fel y gallwn ddeall yn well pa nodweddion oedd angen eu cynnwys.
"Gwelais fod gan Gyngor Dinas Casnewydd awydd gwirioneddol i geisio ateb i'r broblem sbwriel, a diolch iddynt am eu cymorth a'u cefnogaeth."
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Litter Lotto neu lawrlwythwch yr ap nawr a dechreuwch finio!