Derbyn i ysgolion – problem TG
Wedi ei bostio ar Thursday 18th November 2021
Ar hyn o bryd, mae problem gyda'r porth derbyn i ysgolion yr ydym yn gweithio i'w ddatrys cyn gynted â phosibl.
Gall y rhai sydd eisoes â chyfrif fewngofnodi yn ôl yr arfer a chyflwyno neu wirio cais, ond ni fyddwch yn derbyn e-bost cadarnhau.
Ni fydd unrhyw un sy'n ceisio cofrestru ar gyfer cyfrif newydd neu ailosod cyfrinair yn gallu gwneud hynny nes bod y broblem wedi'i datrys.
Yn y cyfamser, gallwch ddewis dull amgen o gyflwyno'ch cais. Dewch o hyd i fanylion y dulliau eraill ar ein gwefan.
Sylwch y glynir wrth y dyddiadau cau a gyhoeddwyd ym mhob achos.
Darperir diweddariadau cyn gynted ag y gallwn ddatrys y broblem.
Diolch am eich amynedd.