Casnewydd yn datgan argyfwng ecolegol a hinsawdd
Wedi ei bostio ar Tuesday 23rd November 2021
Datganodd Cyngor Dinas Casnewydd argyfwng ecolegol a hinsawdd yn ei gyfarfod cyngor llawn heno.
Cafodd cynnig yn datgan argyfwng, a gafodd ei gymeradwyo’n ei gyflwyno gan y Cynghorydd Jane Mudd, arweinydd y Cyngor, a'i secondio gan y Cynghorydd Jason Hughes, yr aelod cabinet dros ddatblygu cynaliadwy.
Wrth basio'r cynnig, cydnabu'r Cyngor fod y newid yn yr hinsawdd yn un o faterion diffiniol ein cenhedlaeth a bod angen i bob un ohonom gydweithio i fynd i'r afael ag ef.
Yn ogystal â datgan argyfwng ecolegol a hinsawdd, mae'r cynnig yn ymrwymo'r Cyngor i:
- barhau â'r gwaith da mae wedi'i ddechrau ac i leihau ei allyriadau carbon i sero net erbyn 2030.
- datblygu cynllun clir ar y newid yn yr hinsawdd, mewn ymgynghoriad â dinasyddion, am y pum mlynedd nesaf a fydd yn nodi'r camau y mae angen eu cymryd i gyflawni hyn.
- datblygu cynllun ynni ardal leol ar gyfer y ddinas gyfan
- adolygu'r gwasanaethau a ddarperir i sicrhau eu bod yn cefnogi taith y ddinas i fod yn un garbon sero-net ac i addasu i’r newid yn yr hinsawdd erbyn 2050.
- gweithio gyda phartneriaid Casnewydd yn Un a'r cyhoedd i ddatblygu strategaeth hinsawdd ar gyfer y ddinas gyfan i sicrhau carbon sero-net ledled y ddinas ac er mwyn addasu i’r newid yn yr hinsawdd erbyn 2050
- cefnogi camau gweithredu partneriaid a dylanwadu arnynt drwy bartneriaethau
- cefnogi dinasyddion i gymryd camau i leihau eu hallyriadau carbon eu hunain.
Dywedodd y Cynghorydd Mudd: “Mae angen dybryd i bob un ohonom ddod at ein gilydd i gyfyngu ar y cynnydd yn y tymheredd byd-eang ac i greu byd cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
"Rydym wedi gwneud cynnydd da o ran lleihau ein hallyriadau carbon dros y blynyddoedd diwethaf, a byddwn yn parhau â'r gwaith hwnnw i sicrhau ein bod yn bwrw ein targed sero net erbyn 2030.
"Drwy ddatgan yr argyfwng hwn, rydym yn cydnabod difrifoldeb y mater yn ogystal â'r angen i ni wneud popeth o fewn ein gallu i fynd i'r afael ag ef."
Mae'r Cyngor yn gofyn i drigolion am eu barn ar ei gynllun drafft ar y newid yn yr hinsawdd, sy'n nodi sut y bydd yn cyflawni allyriadau sero net erbyn 2030.
Mae'r cynllun drafft a'r ymgynghoriad ar gael i'w gweld ar ein gwefan.