Newyddion

Cartref Cŵn Casnewydd yn ennill aur arall

Wedi ei bostio ar Monday 29th November 2021

Enillodd Cartref Cŵn Dinas Casnewydd wobr aur yng ngwobrau PawPrint RSPCA Cymru 2021 am ei waith gyda chŵn ar grwydr.  Dyma'r degfed flwyddyn i'r tîm gael eu cydnabod am y gwaith caled y maent yn ei wneud yn gofalu am gŵn.

Cynllun dyfarnu blynyddol yw PawPrints sy'n cydnabod arfer da gan gyrff cyhoeddus mewn perthynas â lles anifeiliaid.  Mae nifer o gategorïau gan gynnwys; cydnabyddiaeth am ddarpariaeth ar gyfer cŵn ar grwydr, gwaith trwyddedu anifeiliaid, cynllunio wrth gefn a pholisïau tai.  Bernir pob categori ar feini prawf penodol ac mae safonau efydd, arian ac aur ym mhob un.

Mae eleni wedi bod yn arbennig o heriol i'r tîm sydd wedi gorfod sicrhau gofal i'r cŵn a chadw at y cyfyngiadau cadw pellter cymdeithasol a COVID-19.

Dywedodd y Cynghorydd Ray Truman, Aelod Cabinet dros Swyddogaethau Rheoliadol:  "Mae ein staff yn gweithio’n galed i sicrhau y gofalir am unrhyw gwn strae neu gwn nad oes eu heisiau ac y rhoddir y cyfle mwyaf addas iddynt ar gyfer eu gofal yn y dyfodol. Rwy'n falch iawn bod ymdrechion y tîm wedi cael eu cydnabod unwaith eto."

I gael rhagor o wybodaeth am y gwaith a wnaed gan Gartref Cŵn Dinas Casnewydd, ewch i newport.gov.uk/newportdogshome

More Information