Agor llwybr teithio llesol Monkey Island
Wedi ei bostio ar Monday 15th November 2021
Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi agor ei lwybr teithio llesol newydd yn Monkey Island, Llyswyry.
Agorwyd y llwybr yn dilyn cwblhau gwaith i sicrhau bod y llwybr yn gwbl hygyrch.
Mae’r llwybr newydd yn cynnig llwybr croesi diogel o dan y Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol i gerddwyr a beicwyr.
Mae ramp hygyrch newydd yn cysylltu’r llwybr i gerddwyr a beicwyr ar ochr ogleddol y Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol â llwybr newydd o dan y bont.
Mae’r llwybr hwn yn arwain i ystâd dai Lysaght Village, ac oddi yno i lwybrau masnachol a phreswyl eraill yn Llyswyry.
Mae’r llwybr newydd yn golygu na fydd rhaid i feicwyr a cherddwyr ddefnyddio nifer o fannau i groesi’r ffordd o un ochr o’r ffordd ddosbarthu i’r llall.
Dywedodd y Cynghorydd Roger Jeavons, Dirprwy Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau’r Ddinas: “Mae’n bleser gennyf gyhoeddi ein bod wedi agor y llwybr teithio llesol newydd yn Monkey Island.
“Bydd y llwybr cwbl hygyrch hwn o fudd i nifer o drigolion drwy eu galluogi i deithio mwy o fewn eu cymunedau ar droed neu ar feic.
“Rwy’n arbennig o falch hefyd y bydd yn cynnig llwybr diogelach i’r ysgol i blant sy’n byw yn natblygiad Lysaght Village.
“Yn ogystal â gwella iechyd a lles pobl, mae cerdded a beicio hefyd o fudd i’r ddinas ehangach drwy leihau nifer y ceir ar ein ffyrdd. Dyma pam ein bod yn gweithio’n galed i gynyddu’r rhwydwaith teithio llesol fel y gall ein trigolion gael mwy o gyfle i gerdded neu feicio.”
Ar hyn o bryd mae’r cyngor yn gofyn i drigolion ddweud eu barn ar ein cynigion ar gyfer llwybr teithio llesol y dyfodol yn y ddinas.
I weld y cynigion a dweud eich barn, ewch i www.newport3.commonplace.is.