Newyddion

Teithiau bws am ddim ym mis Rhagfyr

Wedi ei bostio ar Monday 29th November 2021

Mae cynllun Nadoligaidd, sy'n annog pobl i ddefnyddio busnesau lleol mewn ffordd gynaliadwy yn y cyfnod cyn y Nadolig, yn cael ei lansio gan Gyngor Dinas Casnewydd

Bydd yn talu am deithiau bws lleol pobl o ddydd rhwng 1 a 24 Rhagfyr.

Bydd teithio am ddim ar fysiau ar gael ar bob gwasanaeth sy'n dechrau ac yn gorffen o fewn ffiniau'r ddinas sy'n cael eu rhedeg gan weithredwr cofrestredig. 

Dwedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd: "Nod y fenter hon yw rhoi hwb i'n busnesau lleol gwych yn ogystal ag annog y defnydd o drafnidiaeth fwy cynaliadwy.

"Mae bysiau'n ffordd wych o fynd o gwmpas y ddinas i siopa neu i gwrdd â ffrindiau a theulu.  Mae gennym fusnesau rhagorol, gan gynnwys llawer o fasnachwyr annibynnol gwych, sy'n haeddu cefnogaeth pawb.

"Nid yw'r ffocws ar yr hinsawdd a'r dyfodol erioed wedi bod yn fwy.  Gall pob un ohonom wneud ein rhan drwy aros yn lleol gymaint â phosibl a defnyddio dewisiadau amgen i'n ceir. 

"Bydd hyn hefyd yn helpu'r rhai yn ein cymunedau sy'n ei chael hi'n anodd yn ariannol, yn enwedig adeg y Nadolig, wrth iddyn nhw geisio rhoi bwyd ar y bwrdd a phrynu anrhegion i'w hanwyliaid.

"Rwy'n gobeithio'n fawr y byddwn yn gweld mwy o bobl ar ein bysiau ym mis Rhagfyr, yn ein siopau a'n lleoliadau lletygarwch.  Cofiwch, fodd bynnag, gadw'n ddiogel, gwisgo masgiau lle bo angen a dilyn y canllawiau eraill i ddiogelu eich hunain, eich anwyliaid ac eraill."  

Bydd y cynllun yn gweithredu ochr yn ochr â'r hyn sy'n gymwys i gael tocynnau rhatach.  Byddai gwasanaethau sy'n dechrau neu'n terfynu y tu allan i ffin y ddinas yn cael eu heithrio ac yn amodol ar y pris rheolaidd.

More Information