Newyddion

Y Cyngor yn lansio ymgynghoriad ar gynllun uchelgeisiol ar y newid yn yr hinsawdd

Wedi ei bostio ar Friday 12th November 2021

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi lansio ymgynghoriad ar ein cynllun newid yn yr hinsawdd newydd.

Mae'r cynllun uchelgeisiol yn nodi sut y byddwn yn gweithio tuag at fod yn ddinas carbon niwtral erbyn 2030.

Mae hefyd yn nodi sut y byddwn yn defnyddio ein gwasanaethau i gefnogi gweithredu ar newid yn yr hinsawdd ledled y ddinas.

Rydym wedi cyhoeddi fersiwn drafft o'r cynllun, a gall trigolion, busnesau a rhanddeiliaid ddweud eu dweud nawr ar ein cynigion.

Yna byddwn yn ystyried eich adborth cyn cwblhau'r cynllun yn gynnar yn 2022.

Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar chwe thema cyflawni allweddol:

  • diwylliant ac arweinyddiaeth sefydliadol
  • ein hadeiladau
  • ein tir
  • trafnidiaeth a symudedd
  • y nwyddau a’r gwasanaethau a gyrchwn,
  • a’n rôl ehangach

Bydd yr ymgynghoriad yn manylu ar ein camau blaenoriaeth o dan bob thema ac yn gofyn am adborth ynghylch ai dyma'r hyn y dylem fod yn ei wneud yn eich barn chi, yn ogystal â gofyn a oes unrhyw beth yr ydym wedi'i fethu yn eich barn chi. 

Dwedodd y Cynghorydd Jane Mudd, arweinydd y Cyngor: “Mae’r newid yn yr hinsawdd yn un o heriau byd-eang diffiniol ein cenhedlaeth.  Mae angen dybryd i bob un ohonom ddod at ein gilydd i gyfyngu ar y cynnydd yn y tymheredd byd-eang ac i greu byd cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

"Fel cyngor, rydym eisoes wedi dechrau'n dda, gan leihau ein hallyriadau uniongyrchol ac sy’n cynhyrchu ynni 29 y cant dros y tair blynedd diwethaf.

"Rydym yn gwybod bod gennym lawer mwy o waith i'w wneud, ac rwy'n falch o allu cyflwyno'r cynllun drafft hwn i'n trigolion.

"Rydym wedi ymrwymo i sicrhau allyriadau carbon sero-net erbyn 2030, ac rydym am gael eich help i sicrhau ein bod yn cymryd y camau cywir i gyflawni'r nod hwn."

Dywedodd y Cynghorydd Jason Hughes, yr Aelod Cabinet dros Gynaliadwyedd:  "Y cynllun hwn fydd sylfaen ein gwaith ar y newid yn yr hinsawdd dros y pum mlynedd nesaf. 

"Rydym yn cydnabod y bydd gwneud y dewisiadau cywir nawr yn ein rhoi ar y llwybr cywir ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Rydym am i'n cymunedau gymryd rhan yn ein gwaith i'n helpu i wneud y dewisiadau cywir.

“Mae angen help pob un ohonom i daclo’r newid yn yr hinsawdd, ac rydym yn hyderus y bydd dinasyddion Casnewydd yn ein helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng byd-eang hwn.”

I weld y cynllun ac i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ewch i https://www.newport.gov.uk/cy/Council-Democracy/Consultations/Consultations.aspx 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.