Newyddion

Y ddinas yn nodi Sul y Cofio gyda gorymdaith flynyddol

Wedi ei bostio ar Thursday 4th November 2021

Bydd Parêd a Gwasanaeth blynyddol Sul y Cofio ar ddydd Sul 14 Tachwedd yng nghanol dinas Casnewydd.

Band Stedfast Casnewydd fydd yn arwain yr orymdaith a fydd yn gadael y Stryd Fawr am 10:35am gan wneud ei ffordd i'r gofadail ym Mhlas Clarence.  Bydd Côr Meibion Dinas Casnewydd hefyd yn bresennol ger y gofadail ynghyd â Band Pres Bwrdeistref Casnewydd.

Bydd y gwasanaeth, a arweinir gan Esgob Mynwy, y Tra Pharchedig Cherry Vann, yn cael ei gynnal yng Nghofadail Casnewydd am 10.58am, gyda’r gynau’n tanio am 11am i nodi dechrau’r ddwy funud o ddistawrwydd.

Yn dilyn y seremoni a'r gwasanaeth gosod torch, bydd yr Arglwydd Raglaw, Maer Casnewydd, Uchel Siryf, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, Cadlywydd y Gatrawd 104, ynghyd â'r gwesteion pwysig, wedyn yn sefyll i’r saliwt wrth i'r orymdaith gerdded heibio.

Bydd y rhai a wahoddir i gymryd rhan yn yr orymdaith yn cynnwys banerwyr, cyn-filwyr, aelodau o'r Lleng Brydeinig Frenhinol, cynghorwyr, cymdeithasau, y Lluoedd Arfog, gan gynnwys cynrychiolwyr o HMS Severn a ailgomisiynwyd yn ddiweddar, gwasanaethau brys a grwpiau ieuenctid.

Cynghorir preswylwyr y bydd ffyrdd ar gau o 7am tan 1pm.  Ymhlith y ffyrdd a fydd ar gau bydd: Upper Dock Street (o Skinner Street i gylchfan yr Old Green), cylchfan Old Green (gan gynnwys y ffyrdd ymuno/ymadael), Old Town Bridge, Clarence Place, Caerleon Road (o Clarence Place i Church Road), Chepstow Road (o Clarence Place i Cedar Road), Corporation Road (o Clarence Place i St Vincent Road) ac East Usk Road (o Clarence Place i Tregare Street).

Ymhlith y gwasanaethau eraill i nodi'r Sul y Cofio mae gwasanaeth a gorymdaith Coffa Caerllion ar ddydd Sul 14 Tachwedd am 10am a gwasanaeth coffa'r Llynges Fasnachol, a gynhelir ar ddydd Sadwrn 20 Tachwedd am 10:45am, yn Mariners Green.  Bydd pobl bwysig yn bresennol yn hyn gan gynnwys Arglwydd Raglaw Gwent, Maer Casnewydd, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd a chynrychiolwyr o Gymdeithas y Llynges Fasnachol.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.