Newyddion

Dinas Casnewydd yn croesawu Maer newydd

Wedi ei bostio ar Wednesday 12th May 2021
Mayor David Williams and Mayoress Ruth 2021

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi croesawu'r Cynghorydd David Williams yn ffurfiol fel prif ddinesydd y ddinas.

Ar 11 Mai 2021, parhawyd â thraddodiad sy’n dyddio’n ôl i'r oesoedd canol yng Nghasnewydd pan ddaeth y Cynghorydd Williams yn Faer rhif 389 Casnewydd. Cofnodwyd y Maer cyntaf yn 1314.

Oherwydd y cyfyngiadau sydd ar waith o hyd yn sgil pandemig COVID-19 ni chynhaliwyd seremoni arwisgo ffurfiol. 

Cafodd y Cynghorydd Williams ei eni a'i addysgu yn y Barri, De Morgannwg. Symudodd gyda'i deulu i Gasnewydd ym 1972 i fyw ar fferm ym Masaleg. Er nad yw David yn ffermwr llawn amser mwyach, mae ffermio'n dal i fod yn rhan o'i fywyd bob dydd gan ei fod yn rhoi help llaw gyda’r ddiadell o ddefaid ar y fferm, boed law neu hindda.

Mae wedi gwasanaethu fel Cynghorydd Ward y Graig ers dros 15 mlynedd; rôl y mae'n ei mwynhau'n fawr, ac y mae’n cael budd mawr ohoni.  Yn ogystal â gwasanaethu ar nifer o bwyllgorau'r cyngor mae David hefyd yn aelod o fwrdd llywodraethwyr Ysgol Gynradd Pentrepoeth ac Ysgol Uwchradd Basaleg.

Ochr yn ochr â'i rôl fel cynghorydd a'i ymrwymiadau ffermio, mae David hefyd yn gweithio i’r Farming Community Network, elusen genedlaethol ledled Cymru a Lloegr sy'n cefnogi ffermwyr ar adegau o angen.

Ei wraig Ruth fydd y Faeres am y flwyddyn. Wedi’i geni a’i magu yn Rhiwderin, mynychodd ysgol gynradd y pentref ac Ysgol Gyfun Basaleg. Mae hi'n edrych ymlaen yn fawr at gefnogi David yn ystod ei flwyddyn Faerol, yn enwedig gan fod dyletswyddau dinesig yn draddodiad yn ei theulu - mae ei mam wedi gwasanaethu ar gyngor y ddinas ac mae ei thad-cu wedi gwasanaethu ar Gyngor Magwyr a Llaneirwg.

Mae'r Maer wedi dewis yr elusennau y bydd yn eu cefnogi yn ystod ei flwyddyn yn y swydd: Mind Casnewydd, a Chyfeillion Cerddoriaeth Gwent.

Yn un o ugain o gymdeithasau Mind lleol yng Nghymru, mae Mind Casnewydd yn elusen iechyd meddwl sy'n cynnig cymorth, cyngor a gwasanaethau i bobl yng Nghasnewydd sy'n wynebu problemau iechyd meddwl. 

Mae Cyfeillion Cerddoriaeth Gwent yn cefnogi gwaith Cerddoriaeth Gwent drwy gyrchu a rhoi arian i'w helpu i gynnal eu gweithgareddau. Mae'r arian y mae'r cyfeillion wedi'i godi yn y gorffennol wedi cefnogi cludiant i gystadlaethau cerddoriaeth ac wedi helpu i dalu am offerynnau.

Bydd y Cynghorydd Martyn Kellaway a'i wraig Helen yn parhau’n Ddirprwy Faer a Maeres am y flwyddyn.

Magwyd y Cynghorydd Kellaway hefyd yn y Barri, gan symud i Gasnewydd ym 1988 i weithio fel Rheolwr Arlwyo yng Ngwaith Llanwern. Mae wedi cynrychioli ward Llanwern ers 2008.

Mae'r Cynghorydd Tom Suller, y Maer sy'n ymadael, wedi cynrychioli'r Cyngor a'r ddinas yn ystod un o'r blynyddoedd mwyaf anarferol erioed.

Er gwaethaf diffyg digwyddiadau oherwydd y pandemig a dim cyfarfodydd cyngor wyneb yn wyneb, ymroddodd yn llwyr i wasanaethu.

Ymhlith yr uchafbwyntiau roedd mynd i ddigwyddiadau codi baner y Lluoedd Arfog, a digwyddiadau’r Cofio a Chofio’r Llynges Fasnachol, lansio prosiect Sakura Cherry Tree yng Nghymru, gwasanaeth teganau Nadolig rhithwir yn Eglwys Fethodistaidd y Drindod, a mynd i gyfarfodydd Zoom misol Clwb Llenyddol Casnewydd a Gwent.

More Information