Newyddion

Diolch i roddwyr am roi gliniaduron i blant

Wedi ei bostio ar Wednesday 24th March 2021

Mae cwmnïau wedi rhoi offer TG i bobl ifanc y ddinas i'w helpu gyda'u gwaith ysgol.

Rhoddodd Microsmith 15 gliniadur i blant mewn cartrefi preswyl ac mewn gofal maeth ac fe roddodd  Wastesavers iPads. Derbyniwyd 10 gliniadur arall yn rhan o brosiect Rhodd Tech.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Cockeram, Aelod Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros wasanaethau cymdeithasol: "Hoffwn ddiolch yn fawr i'r holl gwmnïau am eu haelioni. Roedd y bobl ifanc wrth eu bodd yn derbyn yr offer a fydd yn eu helpu gyda'u gwaith ysgol hyd yn oed ar ôl iddynt ddychwelyd i'r ystafell ddosbarth.

"Hoffwn ddiolch hefyd i'r Cynghorydd Jason Hughes am ei gymorth i gael rhai o'r gliniaduron ac i'r cydlynydd addysg Wendy Hoskins yn y tîm gofal cymdeithasol am ei gwaith gyda Rhodd Tech a'i hymrwymiad i sicrhau bod y bobl ifanc yn cyflawni eu potensial.

"Ein nod yw cefnogi eu dyheadau, gan gynnwys mynd i'r brifysgol, ac mae hyn yn rhoi sylfaen dda iddynt i lwyddo."

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.