Newyddion

Terfynau cyflymder 20mya newydd i'w cyflwyno mewn strydoedd preswyl

Wedi ei bostio ar Wednesday 17th March 2021

Bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn dechrau cyflwyno cyfyngiadau cyflymder 20mya newydd ar draws nifer o strydoedd preswyl mewn chwe ward yn y ddinas.

Mae'r mesurau'n cael eu cyflwyno i helpu i wella diogelwch ar strydoedd preswyl, gyda thystiolaeth yn dangos bod cyflymderau is yn arwain at lai o wrthdrawiadau, a hefyd yn lleihau difrifoldeb unrhyw wrthdrawiadau ac anafiadau a allai ddigwydd.

Bydd y mesurau hefyd yn helpu i sicrhau diogelwch ar strydoedd preswyl tra bod rheoliadau ymbellhau cymdeithasol sy'n gysylltiedig â’r coronafeirws yn parhau mewn grym.

Bydd y cyfyngiadau cyflymder newydd yn cael eu cyflwyno i strydoedd ar draws y chwe ward ganlynol:

•           Allt-yr-ynn

•           Betws

•           Llyswyry

•           Malpas

•           Ringland

•           Victoria

Bydd y mesurau, a fydd yn cael eu cyflwyno fesul cam dros yr wythnosau nesaf wrth i'n timau weithio i osod yr arwyddion ffyrdd angenrheidiol, yn cael eu cyflwyno dros dro i ddechrau, cyn i Lywodraeth Cymru gyflwyno cynlluniau'n genedlaethol i wneud 20mya yn gyflymder diofyn mewn ardaloedd preswyl.

Y gobaith yw y bydd y cyfyngiadau cyflymder newydd, yn ogystal â chynyddu diogelwch, yn annog mwy o bobl i deimlo'n hyderus yn dewis opsiynau teithio cynaliadwy fel cerdded a beicio, y mae'r cyngor hefyd yn eu hyrwyddo drwy ei gynlluniau teithio llesol.

Dywedodd y Cynghorydd Roger Jeavons, dirprwy arweinydd y cyngor: "o lai o wrthdrawiadau i fwy o gyfleoedd ar gyfer cerdded a beicio, mae'r dystiolaeth o fanteision gostwng cyfyngiadau cyflymder i 20mya mewn strydoedd preswyl yn glir.

"Rwy'n falch felly y bydd y cyfyngiadau newydd rydym yn eu cyflwyno yn gwella diogelwch mewn dros 300 o strydoedd ar draws y ddinas ac y bydd miloedd o drigolion yn elwa o welliannau i'w cymunedau ar ffurf strydoedd arafach a thawelach."

Mae gwaith i ddechrau dod â'r cyfyngiadau newydd i rym wedi dechrau ac anogir preswylwyr i gadw llygad allan am yr arwyddion cyfyngiad cyflymder newydd sy'n cael eu gosod yn eu hardal. Bydd y cyfyngiadau cyflymder presennol yn parhau ym mhob ward hyd nes y bydd y broses Gorchymyn Rheoli Traffig yn cael ei chwblhau yfory a bod yr holl arwyddion newydd wedi'u gosod. Bydd y cyngor yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i breswylwyr o ran pan fydd y gwaith hwn wedi'i gwblhau.

More Information