Newyddion

Darganfod gyrfaoedd digidol – digwyddiad rhithwir i ysgolion

Wedi ei bostio ar Thursday 11th March 2021

Bydd myfyrwyr Casnewydd yn cael cyfle i archwilio gyrfa yn y sector digidol yr wythnos nesaf - a bydd y cyfan yn cael ei wneud ar-lein.

Gwahoddir myfyrwyr ym mlwyddyn naw ac uwch i gael gwybod am yr ystod o yrfaoedd digidol sydd ar gael iddynt ar garreg eu drws a'r sgiliau a'r cymwysterau sydd eu hangen arnynt i fod yn llwyddiannus ynddynt.

Bydd y digwyddiad wythnos o hyd yn cael ei gyflwyno ar Microsoft Teams ac yn canolbwyntio ar wahanol themâu bob dydd: seiberddiogelwch; peirianneg meddalwedd, lled-ddargludyddion, technoleg greadigol ac yn y dyfodol a digidol.

Bydd cymysgedd o sesiynau byw a gweminarau gyda mynediad parhaus yn dilyn y digwyddiad, gan ddarparu adnodd ardderchog i bobl ifanc sy'n ystyried eu hopsiynau a'u llwybrau gyrfaol.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd: “Mae Casnewydd yn gartref i nifer o fusnesau llwyddiannus a rhai sy’n tyfu a rhagwelir y bydd y ddinas yn tyfu’n sylweddol dros y 10 mlynedd nesaf. Rydym am i ddisgyblion Casnewydd gael eu cyffroi gan yr hyn sydd gan eu dinas i'w gynnig a chreu llwybr tuag at yrfa gysylltiedig gyda chefnogaeth ein hysgolion, ein colegau a'n busnesau."

Bydd cyflogwyr o fewn y sectorau hyn yn arddangos yr hyn y mae eu cwmnïau'n ei wneud a'r swyddi y maent yn eu cynnig ac yn ateb cwestiynau gan y myfyrwyr. Bob dydd bydd sesiwn gyda chynghorwyr Gyrfa Cymru ar lwybrau i gyflogaeth yn y sectorau.

Dyma’r cyflogwyr a’r sefydliadau sy’n cymryd rhan: IQE;         Newport Wafer Fab; SPTS; Wolfberry; Bright Branch; Third Space; Academi Meddalwedd Genedlaethol Prifysgol Caerdydd; Cyber Wales; Seiberddiogelwch PDC; Roboteg PDC; Hapchwarae Coleg Gwent; Tarian; Urban Myth; a CEMET AI a Virtual Reality.

Datblygwyd y digwyddiad fel rhan o'r gwaith 'sgiliau cywir' sy'n cael ei wneud gan Casnewydd yn Un. Casnewydd yn Un yw Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) y ddinas, lle mae sefydliadau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector lleol yn gweithio ynghyd i wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol y ddinas.  

Arweiniwyd y gwaith o gyflwyno’r digwyddiad hwn gan Gyrfa Cymru ac mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Casnewydd, Prifysgol De Cymru, Coleg Gwent a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru.

Mae rhagor o wybodaeth am sut y gall myfyrwyr gael mynediad i'r digwyddiad ar gael drwy ysgolion uwchradd Casnewydd.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.