Newyddion

Dinas yn addo dim goddefgarwch tuag at wahaniaethu ar sail hil

Wedi ei bostio ar Friday 19th March 2021
ZRW_social assets_welsh_1

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi annog sefydliadau eraill i ymuno ag ymgyrch i roi terfyn ar wahaniaethu ar sail hil yng Nghymru.

I nodi'r Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Dileu Gwahaniaethu ar Sail Hil, mae'r cyngor yn annog sefydliadau eraill i ymrwymo i'r addewid Zero Racism Cymru.

Llofnododd yr addewid yn gynharach eleni gan ymrwymo'r awdurdod i gymryd safiad yn erbyn hiliaeth a hyrwyddo cymdeithas fwy cynhwysol a chyfartal i bawb.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd: "Mae diwrnod y Cenhedloedd Unedig o ddileu gwahaniaethu ar sail hil yn cofio'r 69 o bobl fu farw yn Ne Affrica wrth brotestio yn erbyn cyfreithiau apartheid.

"Ddegawdau'n ddiweddarach, mae llawer i'w wneud o hyd i roi terfyn ar wahaniaethu ar sail hil ac mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i frwydro dros gydraddoldeb hiliol.

"Rwyf wedi llofnodi’r addewid fel unigolyn ac mae’r cyngor wedi llofnodi fel sefydliad i ddangos yn gyhoeddus ein bod yn cymryd safiad yn erbyn gwahaniaethau ar sail hil ac rwy’n annog eraill i wneud yr un fath. "

Dysgwch fwy am yr addewid Zero Racism Cymru yn zeroracism.co.uk

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.