Newyddion

Tynnu sylw at waith gofalwyr di-dâl

Wedi ei bostio ar Thursday 3rd June 2021
Carer-female256x383

Gwneud gofalu'n weladwy ac yn werthfawr yw thema Wythnos Gofalwyr yr wythnos nesaf, ac i adlewyrchu hyn bydd tŵr cloc y Ganolfan Ddinesig yn cael ei oleuo'n las ddydd Llun 7 Mehefin i anrhydeddu gofalwyr di-dâl yn y ddinas.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd: "Mae gofalwyr di-dâl yn gwneud cyfraniad hanfodol, sy'n aml heb ei gydnabod, a dyna pam roeddwn am i ni dalu teyrnged iddyn nhw fel hyn.

"Byddan nhw'n gofalu am berthynas neu ffrind am eu bod yn eu caru, ond yn ddieithriad caiff effaith ar eu bywydau, eu hiechyd a'u lles eu hunain a bydd hynny wedi ei ddwysáu yn ystod y pandemig.

"Gall y cyngor a sefydliadau eraill gynnig cymorth i ofalwyr mewn nifer o ffyrdd ac rwy'n annog unrhyw un sy'n gofalu am ffrind neu aelod o'r teulu i gysylltu â'r cyngor gan fod gennym swyddogion ymroddedig sy'n gallu darparu cyngor a gwybodaeth gwerthfawr.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Cockeram, aelod cabinet dros wasanaethau cymdeithasol: "Mae tua 580 o ofalwyr di-dâl yn hysbys i ni ond adroddodd Cyfrifiad 2011 fod tua 16,500 o bobl yng Nghasnewydd wedi dweud eu bod yn gofalu am rywun felly rydyn ni'n gwybod bod y ffigwr yn llawer uwch.

"Maen nhw'n cynnwys gofalwyr ifanc sy'n helpu i ofalu am riant neu frawd neu chwaer; rhieni sy'n gofalu am blant ag anghenion ychwanegol neu gyflyrau difrifol; gofalwyr "brechdan" yn ymdopi ag anghenion rhieni a phlant ac unrhyw un sy'n gofalu am rywun na all ymdopi heb gymorth.

"Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i'w hannog i gysylltu. Gallant ddarganfod beth y mae ganddynt hawl iddo, gan gynnwys asesiad o'u hanghenion eu hunain. Mae gennym hefyd rwydwaith gofalwyr yng Nghasnewydd lle gallant ddod o hyd i gymorth gan gymheiriaid a chael diweddariadau rheolaidd.

"Rydym hefyd yn gwybod bod llawer o bobl nad ydyn nhw'n sylweddoli eu bod yn ofalwyr di-dâl ond rwy'n gobeithio y bydd eraill yn gwneud y cysylltiad hwnnw ar eu rhan er mwyn sicrhau eu bod yn cael yr holl gymorth sydd ei angen arnynt ac y maen nhw'n ei haeddu."

I gael rhagor o wybodaeth, cyngor a chymorth i ofalwyr ewch i www.newport.gov.uk/carers