Newyddion

Prosiect trawsnewid Pont Gludo yn sicrhau grant gan Wolfson Foundation

Wedi ei bostio ar Tuesday 13th July 2021

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi llwyddo i sicrhau grant o £80,000 gan Wolfson Foundation i helpu i ariannu prosiect trawsnewid y Bont Gludo.

Mae'r grant, a sicrhawyd gan y Sefydliad o dan eu rhaglen 'Treftadaeth, Dyniaethau a'r Celfyddydau', yn ategu'r grant blaenorol o £8.75m a ddyfarnwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, y grant o £1.5m gan Lywodraeth Cymru a'r £1m o gyllid cyfalaf y mae'r cyngor hefyd wedi'i ymrwymo i'r prosiect.

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Harvey, yr aelod cabinet dros ddiwylliant, hamdden a thwristiaeth: "Rwy'n falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi sicrhau'r grant hwn gan Sefydliad Wolfson. 

"Rydym yn falch bod y Sefydliad wedi cydnabod arwyddocâd diwylliannol a hanesyddol y Bont Gludo, ac y bydd y prosiect trawsnewid yn dod â'r arwyddocâd hwn yn fyw drwy wella mynediad ac ymgysylltiad y cyhoedd."

Dywedodd Paul Ramsbottom, prif weithredwr Wolfson Foundation: "Mae Wolfson Foundation wrth ei fodd o allu cefnogi'r prosiect pwysig hwn.  Rydym yn awyddus i ariannu prosiectau rhagorol ledled Cymru ac mae gennym hanes hir o gefnogi treftadaeth ddiwydiannol. 

"Rydym yn gobeithio y bydd y prosiect hwn yn galluogi cenedlaethau'r dyfodol fwynhau a dysgu am y darn rhyfeddol hwn o dreftadaeth beirianyddol Casnewydd."

Bydd y gwaith yn dechrau ar y bont cyn bo hir, gyda'r safle yn dal ar gau i ymwelwyr tra bydd y gwaith mynd rhagddo.  Mae disgwyl i'r bont a'r ganolfan ymwelwyr newydd ailagor yng ngwanwyn 2023.

Bydd rhaglen ymgysylltu yn cynnig cyfle i breswylwyr fod yn rhan o'r prosiect ailddatblygu tra bydd y bont ar gau, a gallwch ddilyn y bont ar Facebook a Twitter i gael diweddariadau rheolaidd yn ystod y prosiect.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.