Newyddion

Marwolaeth preswylydd o Gasnewydd

Wedi ei bostio ar Friday 19th February 2021

Ar ran Cyngor Dinas Casnewydd, hoffwn fynegi ein cydymdeimlad â theulu a ffrindiau Moyied Bashir a fu farw ddoe.

Gwyddwn fod Heddlu Gwent wedi cyfeirio ei hun at y Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) ac mae bellach yn ymchwilio i amgylchiadau marwolaeth Moyied.

Bydd ein timau'n parhau i weithio'n agos iawn gyda phartneriaid a grwpiau lleol i gefnogi ein cymunedau yn y ddinas.

Gellir darllen y datganiad diweddaraf gan yr IOPC yma Ymchwiliad ar y gweill i farwolaeth dyn yng Nghasnewydd ar ôl iddo ddod i gysylltiad â swyddogion Heddlu Gwent | Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu

Y Cynghorydd Jane Mudd, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.