Newyddion

Gair i atgoffa galarwyr a sut i leihau'r risgiau

Wedi ei bostio ar Monday 15th February 2021

Mae'r rhai sydd wedi colli anwyliaid dros y flwyddyn ddiwethaf, boed yn gysylltiedig â'r pandemig ai peidio, wedi gorfod delio â'r straen a'r cymhlethdodau ychwanegol y mae'r feirws a chyfyngiadau cysylltiedig wedi'u hachosi.

Cydnabyddir yn llawn mor anodd a gofidus y gall y cyfnod hwn fod, a bod cefnogaeth a chysur teulu a ffrindiau mor bwysig. Fodd bynnag, rydym yn annog galarwyr i ystyried y risg wirioneddol o ledaenu ymhellach mewn achlysuron o'r fath a chyfyngu ar y risgiau hynny lle bynnag y bo modd.

Yn anffodus, mae achosion yn yr ardal yn dal yn uchel iawn ac mae'r straen newydd, yr ydym yn gwybod ei fod hyd yn oed yn fwy heintus, yn dal i ledaenu'n lleol.

I sicrhau diogelwch y rhai sy'n mynychu, gwasanaethu a gweithio mewn angladdau, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Canllawiau ar Angladdau: COVID 19 sy'n cynnwys y pwyntiau allweddol canlynol:

  • Rhaid cadw at y niferoedd presennol a ganiateir ar gyfer mynychu angladdau mewn addoldai, amlosgfeydd a mynwentydd.
    Mae’r cyfyngiadau presennol ar waith ym mhum ardal awdurdod lleol Gwent ac yn berthnasol i angladdau, gwasanaethau coffa a chynulliadau ar gyfer pob grŵp ffydd mewn mynwentydd ac amlosgfeydd.

    Mae'r niferoedd sy'n gallu mynychu angladdau neu wasanaethau coffa dan do ac yn yr awyr agored wedi'u cyfyngu gan gapasiti'r lleoliad ar ôl i fesurau ymbellhau corfforol gael eu hystyried.

    Bydd eich Trefnydd Angladdau yn gallu rhoi gwybod i chi am y niferoedd a ganiateir ar gyfer lleoliad eich gwasanaeth angladd neu goffa.
  • Rhaid bod yn bresennol drwy wahoddiad yn unig i sicrhau y gellir cadw at y niferoedd uchaf.
    Mae mynychu angladd fel galarwr wedi'i gyfyngu i'r rhai a wahoddir yn benodol gan drefnydd yr angladd a gofalwr unrhyw un sy'n mynychu. Nid yw'r rhai sy'n gwasanaethu/gweithio yn y lleoliad wedi'u cynnwys yn nifer y mynychwyr.
  • Gwisgwch orchudd wyneb priodol
    Mae'n ofynnol i'r rhai sy'n mynychu angladd wisgo gorchudd wyneb drwy gydol y seremoni, ac eithrio unigolion sydd ag esgus rhesymol, megis:
    • rhai nad ydynt yn gallu gwisgo gorchudd wyneb oherwydd salwch corfforol neu feddyliol, neu oherwydd anabledd neu nam; neu
    • maent yn hebrwng rhywun sy'n dibynnu ar ddarllen gwefusau i gyfathrebu.

Canllaw Llywodraeth Cymru ar ddefnyddio gorchuddion wyneb.

  • Ni chaniateir gwylnosau ar hyn o bryd
    Ni chaniateir cynulliadau fel gwylnosau neu ‘wakes’ tra bo  cyfyngiadau rhybudd lefel 4 ar waith.
  • Cadwch bellter cymdeithasol bob amser
    Dylech geisio lleihau'r amser a dreulir y tu allan i'r cartref, a sicrhau eich bod yn aros o leiaf 2 fetr oddi wrth unrhyw un nad ydych yn byw gydag ef neu mewn swigen gefnogaeth ag ef.
  • Dwylo, wyneb, gofod
    Yn ogystal â chadw pellter cymdeithasol, gallwch gyfyngu ar y risg o ledaenu drwy gynnal hylendid da a golchi dwylo a gwisgo gorchudd wyneb.
  • Ymweld â bedd
    Caniateir i chi ymweld â bedd, ond dylech sicrhau eich bod yn dilyn mesurau ymbellhau corfforol wrth wneud hynny a gwirio'r cyfyngiadau/amseroedd mynediad yn eich mynwent benodol.

Mae awdurdodau lleol yn gweithio'n agos gyda'r gwasanaeth iechyd, addoldai a chyfarwyddwyr angladdau i sicrhau y cewch y profiad a'r gefnogaeth gorau posibl yn ystod yr amgylchiadau anodd a heriol hyn – sicrhewch eich bod hefyd yn gwneud popeth o fewn eich gallu i gyfyngu ar ledaeniad pellach y feirws hwn yn lleol drwy ystyried y canllawiau uchod, a glynu wrthynt.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.