Newyddion

Covid-19: Cymorth i bobl sy'n cysgu ar y stryd yn gweddnewid bywydau

Wedi ei bostio ar Wednesday 3rd February 2021
Welsh Homeless Support Graphic2

I rai pobl, mae pandemig Covid-19 wedi newid eu bywydau'n ddramatig - ac mae hyn wedi bod yn wir am Peter*.

Fodd bynnag, i'r dyn hwn a arferai gysgu ar y stryd, mae'r effaith wedi bod yn un gadarnhaol ar ôl cael cefnogaeth sylweddol i fynd i'r afael â'i broblemau cymhleth.

Mae ei weithiwr cymorth Catherine* wedi rhannu ei stori i dynnu sylw at waith ac ymroddiad rhagorol tîm cymorth yn ôl yr angen Cyngor Dinas Casnewydd a phenderfyniad cleientiaid i wella eu bywydau.

Ers iddo fod yn 16 oed, mae Peter wedi bod yn y carchar troeon; wedi cael problemau difrifol gyda chamddefnyddio sylweddau ac mae ganddo broblemau iechyd meddwl gan gynnwys gorbryder ac iselder.

Mae ganddo hefyd drafferthion ymddygiadol a pherthynas, gan arwain at flynyddoedd lawer o aildroseddu yn ogystal ag anawsterau o ran cynnal perthnasoedd cadarnhaol a chynnal tenantiaethau.

Fodd bynnag, ers dechrau'r pandemig mae wedi bod yn ymgysylltu'n dda â gwasanaethau cymorth ac yn derbyn cymorth gyda thai a'i iechyd meddwl. Os oes angen help arno, bydd nawr yn gofyn amdano gan ei weithiwr cymorth.

Mae Peter hefyd wedi cynnal tenantiaeth yn ei lety dros dro am yr amser hiraf ers blynyddoedd lawer wrth leihau ei ddibyniaeth ar alcohol a chyffuriau. Mae ei ymddygiad troseddol wedi gwella gan ei fod wedi ymgysylltu'n gyson â'i swyddog prawf.

Mae wedi mwynhau gwneud ei lety ei hun a gwella ei sgiliau coginio. Mae hefyd am gael ei denantiaeth ei hun a pharhau i leihau ei ddibyniaeth ar gyffuriau.

Bydd angen i Peter gael cefnogaeth barhaus er mwyn byw'n annibynnol ond mae Catherine yn hyderus bod ganddo'r potensial i lwyddo.

Mae stori galonogol Peter yn ymwneud â'r llwyddiannau niferus yr ydym wedi'u gweld yng Nghasnewydd ar ôl i Lywodraeth Cymru sicrhau bod cyllid ar gael i gefnogi pobl ddigartref yn ystod y pandemig.

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae pobl wedi cael cynnig llety dros dro ar draws y ddinas ac mae asiantaethau, gan gynnwys cymorth yn ôl yr angen i'r bobl sy'n cysgu ar y stryd, The Wallich, GDAS, GSSMS, Probation, Eden Gate, SEASS a Pobl, wedi rhoi cymorth.

Mae nifer fach o gleientiaid hefyd wedi defnyddio gwasanaethau rhagnodi cyflym i gael Buvidal, sy'n trin dibyniaeth opioidau.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd: "Ein nod hirdymor erioed fu cael pobl oddi ar y strydoedd ac i mewn i lety - help llaw i fywyd gwell, nid rhodd i gynnal ffordd o fyw anhrefnus.

"Fodd bynnag, daeth y pandemig â chanolbwynt newydd i'r broblem, nid yn unig i'r rhai sy'n ymroddedig i gefnogi pobl sy'n cysgu ar y stryd ond i'r unigolion eu hunain.

"Roedd y cynnydd yn y cyllid gan Lywodraeth Cymru gyda'r nod o gartrefu pawb yn chwarae rhan bwysig ond yr hyn a brofodd yn hanfodol oedd ymgysylltu pobl â'r gwasanaethau cymorth, rhai am y tro cyntaf.

"Mae hyn wedi galluogi llawer o bobl i weld eu bod yn gallu newid eu bywydau yn y tymor hir. Nid yw'n golygu na fu heriau, ac mae rhai unigolion o hyd sy'n gwrthod unrhyw gymorth, ond rydym wedi cymryd camau mawr ymlaen i fynd i'r afael ag un o'r prif faterion heddiw.

"Rydym yn gobeithio bod hon yn duedd a fydd yn parhau hyd yn oed pan fydd y pandemig dan reolaeth wrth i ni ddarparu dewisiadau amgen i fywyd ar y strydoedd sydd o fudd i unigolion, y ddinas a chymdeithas."

*Mae rhai enwau wedi cael eu newid

More Information