Y Cabinet yn argymell y gyllideb i'r Cyngor
Wedi ei bostio ar Monday 22nd February 2021
Heddiw cymeradwyodd Cabinet Cyngor Casnewydd gynigion cyllideb ar gyfer 2021/22 gan gynnwys cynnydd a argymhellwyd o 3.7 y cant yn y dreth gyngor.
Mae'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yn seiliedig ar setliad drafft Llywodraeth Cymru gan nad yw'r setliad terfynol yn ddyledus tan 2 Mawrth - y diwrnod cyn y bydd y Cyngor yn pennu ei gyllideb.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd: "Rwy'n gwerthfawrogi bod gennym setliad mwy cadarnhaol na'r disgwyl yn seiliedig ar ein poblogaeth gynyddol ac rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gwireddu ei hymrwymiad i ofal cymdeithasol ac addysg.
"Rhaid cydnabod bod y galwadau ar ein gwasanaethau yn parhau i godi ac, mewn termau real, mae ein cyllid yn dal yn llai nag yr oedd dros ddegawd yn ôl o ganlyniad i flynyddoedd lawer o galedi.
"Fodd bynnag, er bod yn rhaid i ni wneud arbedion, roeddwn hefyd am fuddsoddi yn y ddinas a'i thrigolion.
Mae Casnewydd, fel llawer o leoedd eraill, mewn sefyllfa fregus oherwydd y pandemig a'r cyfyngiadau angenrheidiol iawn sydd wedi dod yn eu sgil. Mae helpu Casnewydd i wella yn flaenoriaeth gan y bydd hynny o fudd i drigolion a'n busnesau lleol.
"Mae hon yn gyllideb ar gyfer adferiad cyfrifol; adferiad gwyrdd a chlir sy'n blaenoriaethu pobl ac yn buddsoddi mewn lle"
"Mae'r cabinet a'r swyddogion wedi gweithio'n eithriadol o galed ac rwy'n credu ein bod wedi taro'r cydbwysedd cywir.
"Hoffwn ddiolch hefyd i bawb - gan gynnwys trigolion, busnesau, undebau llafur, y Comisiwn Tegwch - a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad. Cawsom ymateb da er gwaethaf y cyfyngiadau a chafodd y cynigion eu croesawu yn bennaf.
"Pan ddeuthum yn arweinydd, fe wnes i addo gwrando a dyna yr wyf i, a'm cabinet, wedi'i wneud. Deallwn fod rhai pobl yn cael trafferthion ariannol ar hyn o bryd a'r ymateb mwyaf oedd i’r cynnydd arfaethedig yn y dreth gyngor er y byddai biliau yng Nghasnewydd wedi bod ymhlith yr isaf yng Nghymru ac o bosibl y DU.
"Rydym yn argymell i'r cyngor llawn y dylai'r dreth gyngor y flwyddyn nesaf godi 3.7 y cant yn hytrach na'r 5 y cant arfaethedig. Bydd hyn yn golygu bod gennym £9 miliwn yn llai o gyllid na chyfartaledd Cymru ond rwy’n teimlo y bydd yn helpu llawer o bobl, nad ydynt yn gymwys i gael budd-daliadau'r dreth gyngor, ar yr adeg anodd hon.
"Yr unig gynnig arall a oedd hefyd wedi derbyn rhywfaint o wrthwynebiad oedd codi tâl am rai eitemau gwastraff ansafonol yn y ganolfan ailgylchu gwastraff y cartref felly rydym wedi penderfynu ei dynnu'n ôl.
"Rydym yn cynnig buddsoddi'n sylweddol mewn gofal cymdeithasol i oedolion a phlant oherwydd bod gofalu am aelodau mwyaf agored i niwed ein cymunedau mor bwysig.
"Rydym am ddarparu mwy o gyfleoedd hyfforddi, gan gynnwys prentisiaethau, i breswylwyr a bydd ffocws allweddol ar fentrau cynaliadwyedd a datgarboneiddio yn ogystal â phrosiectau i wella'r amgylchedd lleol.
"Mae canol y ddinas wedi wynebu heriau cynyddol ac mae'r pandemig wedi cael effaith fawr ar rai busnesau. Rhaid i ni gofio nad yw'n ymwneud â busnesau a siopau gwag yn unig – mae llawer o bobl wedi colli eu bywoliaeth a dyna'r gost ddynol.
"Am y rheswm hwn, rydym am neilltuo cyllid a fydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau adfywio allweddol fel rhan o becyn buddsoddi ehangach i gefnogi datblygiad economaidd y ddinas yn y dyfodol.
"Rydyn ni eisiau helpu i adeiladu dyfodol mwy disglair i Gasnewydd ac ni allwn sefyll yn llonydd ond edrychwn ymlaen yn gadarnhaol. Rwy'n gobeithio y bydd y cyngor yn gallu cefnogi'r gyllideb hon a'i hymrwymiad i wella'r ddinas a bywydau ein trigolion."