Rhybudd am vapes niweidiol ar werth yn y ddinas
Wedi ei bostio ar Wednesday 29th December 2021
Mae tîm safonau masnach Cyngor Dinas Casnewydd yn annog trigolion i fod yn ymwybodol bod vapes anghyfreithlon ar werth yn y ddinas.
Mae dyfeisiau vape tafladwy a adwaenir gan enwau amrywiol gan gynnwys 'Geek Bars' a 'Nicotine Puffs' yn cynnwys dos niweidiol iawn o nicotin.
Rhaid i gynhyrchion vape sy'n cael eu gwerthu yn y DU gydymffurfio â gofynion penodol gan gynnwys:
- Rhaid iddynt gynnwys dim mwy na dau y cant o nicotin
- Rhaid iddynt gynnwys dim mwy na 2ml o hylif
- Rhaid nodi'r union eiriad "Mae'r cynnyrch hwn yn cynnwys nicotin sy'n sylwedd caethiwus iawn" ar y pecynnu
- A rhaid bod cyfeiriad yn y DU hefyd ar y pecynnu
Hyd yn hyn, mae swyddogion wedi dod o hyd i 220 o vapes anghyfreithlon ar werth mewn pum siop yng Nghasnewydd gyda gwerth manwerthu cyfunol o £2,100. Mae'r perchnogion siop wedi rhoi'r gorau i'w gwerthu o'u gwirfodd.
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth am yr eitemau hyn yn cael eu gwerthu yn y ddinas gysylltu âtrading.standards@newport.gov.uk neu ffonio 01633 656656.