Newyddion

Presenoldeb mewn Amlosgfeydd - nifer y galarwyr a ganiateir

Wedi ei bostio ar Friday 24th December 2021

Datganiad Fforwm Cydnerthedd Lleol Gwent ar niferoedd mewn gwasanaethau mewn AMLOSGFEYDD

Yr wythnos hon, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd Cymru, o 6am ar 26 Rhagfyr 2021, yn symud i Lefel Rhybudd 2.

Fel rhan o'r rheolau newydd sydd wedi'u cynnwys yn Lefel Rhybudd 2, mae'n ofynnol cadw pellter cymdeithasol o 2m ym mhob safle sydd ar agor i’r cyhoedd, a bod y nifer sy'n gallu mynychu yn cael ei bennu gan allu'r lleoliad i reoli ymbellhau cymdeithasol a mesurau rhesymol eraill.

Felly, yn unol â'r uchod, mae'r o alarwyr y caniateir iddynt fynychu amlosgiadau yng Nghapel Amlosgfa Gwent, Croesyceiliog yn cael eu cyfyngu i ugain (20). Daw hyn i rym ar ddydd Sul 26 Rhagfyr 2021.

Mae'r holl benderfyniadau o ran niferoedd galarwyr a ganiateir yn cael eu gwneud yn dilyn adolygiad o asesiadau risg sy’n cynnwys ystyried nifer o ffactorau, gan gynnwys y gallu i gynnal a gorfodi'r gofynion ymbellhau cymdeithasol dau fetr yn ddiogel, a'r effaith ar iechyd, diogelwch a lles parhaus pawb sy’n bresennol mewn angladd, gan gynnwys y sawl sy’n rheoli ac yn gweinyddu.

Mae'r nifer cyfredol yn cefnogi’r gwaith o amddiffyn y cyhoedd, yr ymdrech barhaus i arafu lledaeniad y feirws, ac yn sicrhau y gall gwasanaethau profedigaeth barhau i reoli angladd ddiogel ac urddasol.

Drwy gydol pandemig Covid-19, nid yw'r penderfyniad i gyfyngu ar nifer y galarwyr a ganiateir wedi'i wneud yn ysgafn. Mae parch i'r ymadawedig a thosturi at y rhai sydd wedi cael profedigaeth yn rhan bwysig o'n penderfyniadau, ond rhaid i ddiogelu iechyd a lles y cyhoedd, staff angladdau a’r Amlosgfa fod yn brif flaenoriaeth yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus parhaus hwn.

Nid effeithir ar amseroedd agor Tiroedd yr Amlosgfa a bydd yr oriau agor yn parhau’r un fath ag arfer.

Bydd partneriaid Fforwm Cydnerthedd Lleol Gwent yn parhau i adolygu'r mater hwn tra bod pandemig Covid-19 yn dal i gael effaith ar ardal Gwent.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.