Prosiectau cymunedol i elwa o £415,000 yn rownd ddiweddaraf cynllun cyllidebu cyfranogol
Wedi ei bostio ar Monday 6th December 2021
Mae trigolion, grwpiau cymunedol a phrosiectau Casnewydd yn cael eu hannog i gymryd rhan yn rownd ddiweddaraf cynllun cyllidebu cyfranogol Casnewydd, Ein Llais, Ein Dewis, Ein Port.
Lansiwyd y cynllun yn gynharach eleni ac mae 24 o grwpiau a phrosiectau cymunedol wedi cael cyfran o'r £103,000 sydd ar gael yn y rownd gychwynnol.
Mae ceisiadau ar gyfer ail rownd y cynllun bellach ar agor. Mae'r cyngor wedi dyrannu £250,000 o'n cronfa adfer yn sgîl Covid-19 ar gyfer y rownd hon o'r cynllun. Dyrannwyd yr arian hwn ar gyfer grwpiau cymunedol i ddatblygu prosiectau adfer yn sgîl Covid yn y gymuned.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi darparu £165,000 arall, gan gymryd y cyfanswm sydd ar gael yn y rownd hon i £415,000.
Gall grwpiau a phrosiectau cymunedol wneud cais am hyd at £15,000 i helpu i gefnogi syniad neu brosiect sy'n helpu i fodloni un o themâu allweddol y cynllun:
- Iechyd Meddwl a Lles
- Cydlyniant Cymunedol
- Gwybodaeth a Mynediad
- Adfer Bywyd
- Magu Gwydnwch
Gall preswylwyr bleidleisio dros y prosiectau sydd bwysicaf iddynt mewn digwyddiadau ymgysylltu ym mis Chwefror a mis Mawrth. Bydd cyllid o'r gyllideb yn cael ei ddyrannu i brosiectau yn ôl cyfran y bleidlais.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, arweinydd y Cyngor: "Mae cyllidebu cyfranogol yn ffordd wych o rymuso trigolion i wneud penderfyniadau ar yr hyn sy'n bwysig iddynt.
"Cawsom ymgysylltiad gwych gan ein cymuned yn gynharach eleni yn ystod y rownd gychwynnol, ac rwy'n siŵr y byddwn yn gweld yr un cyfranogiad y tro hwn.
"Er bod y pandemig wedi bod yn anodd i bob un ohonom, mae wedi bod yn galonogol gweld ymateb grwpiau a phrosiectau ar lawr gwlad sydd wedi dod i'r amlwg i helpu ein cymuned drwy'r gwaethaf ohono.
"Rydym am gefnogi'r grwpiau a'r prosiectau hynny gymaint â phosibl, ac rwy'n falch felly o allu rhwymo'r cyllid hwn i'r cynllun."
I gefnogi grwpiau sydd â diddordeb, bydd cymorthfeydd ymgeisio a chymorth gwneud fideos gan Mutual Gain, cwmni sydd â phrofiad o ddod â digwyddiadau cyllidebu cyfranogol ynghyd ledled y DU.
I gael gwybod mwy am y cynllun,
ewch i’n gwefan.