Newyddion

Apwyntiadau wyneb yn wyneb i ailddechrau'n y ganolfan gyswllt

Wedi ei bostio ar Monday 23rd August 2021

Bydd staff canolfan gyswllt Cyngor Dinas Casnewydd yn ailddechrau gwasanaethau wyneb yn wyneb mewn cartref dros dro newydd o 6 Medi ymlaen.

Bydd apwyntiadau ar gael yng Nglan yr Afon i drigolion ag ymholiadau yn ymwneud â thai, budd-daliadau tai, y dreth gyngor a phenodedigion. 

Gall preswylwyr hefyd barhau i ddod o hyd i wybodaeth am wasanaethau'r cyngor, gwneud ceisiadau neu roi gwybod am faterion ar-lein yn www.newport.gov.uk neu drwy ffonio 01633 656656.

Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, bydd staff y cyngor yn parhau i weithio gartref lle bynnag y bo modd.

Fel rhan o gynllun tymor hwy, bydd gwasanaethau cyswllt yn symud i'r Llyfrgell Ganolog a'r Amgueddfa y flwyddyn nesaf.

Mae'n dilyn penderfyniad i osod rhan o'r Orsaf Wybodaeth i Tramshed Tech. i greu mannau cydweithio a deori busnes. Mae'r hen orsaf reilffordd hefyd yn gartref i Academi Meddalwedd Genedlaethol bwysig Prifysgol Caerdydd.

Tra bo gwaith yn cael ei wneud i adeilad Sgwâr John Frost, bydd y staff yn symud dros dro i Lan yr Afon, diolch i gytundeb gyda Chasnewydd Fyw. Bydd yn fan hygyrch i drigolion mewn lleoliad yng nghanol y ddinas ger yr orsaf fysiau a'r meysydd parcio.

Bydd symud i adeilad y Llyfrgell Ganolog a'r Amgueddfa yn dod â nifer o wasanaethau at ei gilydd i leoliad yng nghanol y ddinas, gyda mynediad i'r orsaf fysiau a'r meysydd parcio, gan roi bywyd newydd i'r adeilad.

Yn rhan o'r prosiect hwnnw, bydd y cyntedd yn cael ei ad-drefnu i greu derbynfa a rhoi teimlad mwy croesawgar iddo ac mae angen gwaith i greu gofod swyddfa newydd.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.