Newyddion

Cau brys – Hen Bont Basaleg

Wedi ei bostio ar Saturday 7th August 2021

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi cau Hen Bont Basaleg sy'n arwain at Forge Mews, Basaleg.

Mae adolygiadau strwythurol o'r bont yr wythnos hon wedi nodi bod y bont yn anniogel ar hyn o bryd ac y gallai o bosibl gwympo o dan ei phwysau ei hun.

Felly, er resymau diogelwch, rydym wedi penderfynu cau'r bont i gerbydau a cherddwyr ar unwaith o 16:00 heddiw (dydd Gwener 6 Awst). 

Rydym wedi cynghori’n gryf trigolion Forge Mews i adael eu cartrefi cyn gynted â phosibl. Y rheswm am hyn yw y byddai cau'r bont yn atal y gwasanaethau brys rhag mynd i'r stryd pe bai argyfwng.  

Byddwn yn sicrhau bod unrhyw breswylydd sy'n penderfynu gadael ei gartref yn cael cynnig llety dros dro addas. 

Bydd swyddogion rheoli traffig ar y safle dros y penwythnos i sicrhau nad oes mynediad dros y bont i Forge Mews.   Bydd mynediad i gerddwyr o Park View i Heol Caerffili ac i Fasaleg, gan ddefnyddio'r bont droed dros yr A467, hefyd yn cael ei wahardd.

Bydd gwaith adfer yn dechrau ar Hen Bont Basaleg cyn gynted â phosibl.  Mae trefniadau mynediad dros dro hefyd yn cael eu harchwilio.

Mae hon yn sefyllfa ddifrifol, a'n hasesiad ni yw bod y bont yn peri gormod o risg i aros ar agor.

 

Diolchwn i drigolion Forge Mews am eu cydweithrediad a'u dealltwriaeth.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.