Newyddion

Gwasanaethau gofal cymunedol o dan bwysau oherwydd galw uchel a phrinder staff

Wedi ei bostio ar Monday 16th August 2021

Mae cynghorau yng Ngwent yn rhybuddio trigolion sy’n derbyn gofal iechyd a chymdeithasol yn y gymuned y dylen nhw ddisgwyl newidiadau posibl yn eu cefnogaeth oherwydd galw mawr am wasanaethau a phrinder staff.  

Mae cyfuniad o’r symudiad i Lefel Rhybudd 0 COVID-19, sydd wedi arwain at geisiadau ychwanegol am ofal cymunedol, ynghyd â’r angen i staff gymryd gwyliau dros yr haf, wedi cynyddu’r pwysau ar wasanaethau gofal cymunedol ledled Cymru.  

Mae cynghorau yng Ngwent yn blaenoriaethu adnoddau o fewn timau ac yn rhedeg ymgyrchoedd recriwtio i ddelio â phrinder staff.  Serch hynny, mae’n bosibl y bydd yna rhai newidiadau i’r gefnogaeth y mae pobl yn ei derbyn, ac efallai bydd gofyn i deuluoedd gynorthwyo darparwyr gofal cymunedol  

Dywedodd Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol a Thai Cyngor Torfaen, Keith Rutherford: “Mae ein timau ar draws Gwent yn wynebu pwysau difrifol. Mae yna alw cynyddol am ein gwasanaethau sydd wedi cael ei ddwysáu gan bandemig COVID 19. Mae hyn yn mynd law yn llaw ag absenoldebau tymor hir a byr a swyddi gwag. 

“Mae pob ymdrech yn cael ei wneud i helpu i gynnal gwasanaethau, ond mae’r sefyllfa’n bryderus, ac mae’n rhaid gwneud penderfyniadau anodd pob dydd. 

“Y bwriad yw gwarchod aelodau bregus ein cymdeithas trwy atal gwasanaethau rhag chwalu.  

“Rydym yn gofyn i unigolion, teuluoedd a gofalwyr i weithio gyda ni, a bod yn amyneddgar gyda’n staff.” 

Dywedodd Nick Wood, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cychwynnol, Cymunedol ac Iechyd Meddwl  Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: “Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid mewn gofal cymdeithasol i edrych ar bob cyfle i gefnogi pobl leol gyda’u hanghenion gofal parhaus, naill eu yn eu cartrefi neu drwy’r rhwydwaith sylweddol o ddarparwyr yn yr ardal. 

“Rydym yn cydnabod yr heriau anferth ar hyn o bryd gyda faint o staff gofal cartref sydd ar gael a’r galw cynyddol am ofal a chefnogaeth, ac rydym yn annog cymunedau i weithio gyda ni a’r timau gwasanaethau cymunedol. 

“Mae gwasanaethau o dan bwysau sylweddol ac mae hyn yn debygol o barhau yn y tymor byr a chanolig wrth i ni weithio gyda phartneriaid gofal cymdeithasol i gynyddu capasiti yn y gymuned a galluogi newidiadau yn y ffordd y mae gwasanaethau’n cael eu cyflenwi wrth i ni adfer ein hunain ar ôl pandemig COVID-19.” 

Os oes unrhyw un â diddordeb mewn gyrfa mewn gofal cymdeithasol, mae yna gyfleoedd am swyddi yn y sector. Am ragor o wybodaeth, ewch i  https://gofalwn.cymru neu wefan eich awdurdod lleol. 

 

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.